Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig darparu cyfleuster croesfan sebra newydd ar Heol y Star, Penperllenni. Cynigir bod y groesfan sebra yn cael ei lleoli 13 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Lôn yr Ysgol.

Gellir archwilio isod cynllun sy’n nodi lleoliad y groesfan sebra arfaethedig.

Dylid gwneud unrhyw wrthwynebiadau mewn perthynas â’r cynnig hwn yn ysgrifenedig yn unig, gan nodi ar ba sail y gwneir y gwrthwynebiad ac y dylid ei anfon at traffic@monmouthshire.gov.uk neu i’r Adran Draffig, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Brynbuga, NP15 1GA, i’w derbyn heb fod yn hwyrach na 5pm ar ddydd Gwener 24ain Gorffennaf 2020.