Mae Creu Lleoedd yn golygu creu mannau y mae pobl eisiau byw a gweithio ynddynt, ymweld â nhw a threulio amser ynddynt. Mae’n ffordd o feddwl sy’n rhoi pobl wrth galon penderfyniadau am gynllunio, gan sicrhau bod datblygiadau newydd a gwelliannau i ardaloedd sy’n bodoli yn barod, yn helpu cymunedau i ffynnu.
Mae cynlluniau creu lleoedd yn ddogfennau strategol ar gyfer tref neu ddinas, a ddatblygwyd ar y cyd ag ystod eang o randdeiliaid, ac maen nhw’n cyflwyno gweledigaeth ar gyfer y lle hwnnw, yn ystyried yr heriau a’r cyfleoedd y mae’n eu hwynebu, ac yn cynnig camau gweithredu ac ymyriadau i wireddu’r weledigaeth a mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd a nodwyd. Un rhagofyniad ar gyfer cyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio canol trefi yw bod cynlluniau creu lleoedd addas yn eu lle neu’n cael eu datblygu.