Ar un adeg roedd Comin y Felin yn rhan o dir comin cyffredin Gwndy ac mae’n ymddangos ar fapiau o’r 18fed ganrif fel porfa agored i’r bobl leol ei defnyddio fel tir pori ac i dorri gwair. Ar ôl i bori traddodiadol ddirywio yn yr 20fed ganrif, ymsefydlodd coed a phlanhigion brodorol yn naturiol, ac, yn raddol, ffurfiwyd y coetir cymysg a welir heddiw. Erbyn hyn, mae’n goetir llydanddail annwyl rhwng Magwyr a Gwndy, ac mae’n cynnig lle tawel i gerdded a mwynhau natur trwy gydol y tymhorau. Mae llwybrau troellog, llennyrch cysgodol ac ardaloedd agored yn creu tirwedd amrywiol, gyda golygfeydd ar draws Gwastadeddau Gwent tuag at Aber Afon Hafren, ac mae’n gynefin i amrywiaeth o fywyd gwyllt. Caiff ei reoli fel coetir cymunedol, ac mae’r gwaith parhaus yn diogelu coed aeddfed, yn gwella bioamrywiaeth ac yn cynnal llwybrau i ymwelwyr. Gofynnir i ymwelwyr aros ar lwybrau, parchu’r bywyd gwyllt a mynd â’i sbwriel adref gyda nhw, er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu mwynhau’r safle.
Cliciwch yma i weld fersiwn ddigidol y daflen
Cliciwch yma i weld lluniau o Gomin y Felin a dynnwyd gan drôn
Comin y Felin, Gwndy
Cyfeirnod y lleoliad: 51.581410, -2.8246826
Cod Post agosaf: NP26 3LZ
Cyfeirnod grid: ST 42954 87272
What3Words: tourist.kinks.overcomes
- Llwybrau ag arwyneb a heb arwyneb
- Cerfluniau
- Meinciau
- Parcio cyfyngedig ar y stryd
- Byrddau dehongli, amrywiaeth o daflenni ac adnoddau eraill
Nid oes meysydd parcio gerllaw ac mae mynediad ar droed yn bennaf ar hyd nifer o lwybrau o’r ardaloedd o dai gerllaw.