Skip to Main Content



Beth yw hyn?

Mae Clefyd Coed Ynn yn glefyd ffyngol o’r enw Hymenoscyphus fraxineus (yn ffurfiol Chalara Fraxinea) a geir mewn coed ynn, ac mae gan y clefyd gyfradd marwolaethau uchel. Nid oes gan goed ynn yn y DU lawer o wrthwynebiad i’r clefyd hwn gan iddo gael ei fewnforio o Asia, sy’n golygu nad oedd coed y DU wedi datblygu ymwrthedd naturiol. Mae’r clefyd yn yr awyr a gall deithio ymhell cyn glanio ar goeden ac achosi haint. Oherwydd hyn, mae ymlediad y clefyd wedi digwydd yn gyflym iawn trwy’r DU.

Ble mae’r clefyd

Mae clefyd coed ynn yn effeithio ar goed ar draws y DU gyfan ac Ewrop.  Cafodd y ffwng sy’n achosi’r clefyd ei nodi gyntaf yn 2012 er ei fod wedi bod yn effeithio ar goed yn y DU ers o leiaf 2006. 

Beth mae Cyngor Sir Fynwy yn ei wneud i fynd i’r afael â Chlefyd Coed Ynn.

Bwriad Cyngor Sir Fynwy yw cadw cymaint o goed ynn â phosib, lle nad yw hynny’n effeithio ar ddiogelwch pobl nac isadeiledd. Fel canllaw cyffredinol, dim ond unwaith y bydd coron wedi marw’n ô tua 50% y bydd wedyn yn cael ei hystyried i’w symud. Er gwneir y penderfyniad hwn ar ddull asesu fesul achos.

Sut alla i ddweud a oes gan goeden y clefyd?

Gall clefyd coed ynn gyflwyno a symud ymlaen yn wahanol o goeden i goeden. Gall coeden sy’n dioddef o glefyd coed ynn gael dim ond un neu bob un o’r symptomau canlynol:

  • Y goron yn teneuo
  • Dail brown sy’n troi a disgyn cyn diwedd yr haf, yn arbennig o amlwg ar ddiwedd y canghennau
  • Briwiau ar y coesynnau (yn enwedig mewn coed ifanc)
  • Bydd hadau/hadau asgellog yn troi’n frown ond yn aros ar y gangen

Fel arfer coed ynn yw’r rhywogaeth olaf o goeden i dyfu dail tymor newydd, felly peidiwch â phoeni os nad yw onnen wedi aildyfu ei dail yn ystod y gwanwyn. Dylai coed ynn gael coron lawn erbyn canol Mehefin.

Rheoli clefyd coed ynn

Er bod clefyd coed ynn yn farwol i’r rhan fwyaf o goed, nid yw presenoldeb y clefyd yn sail i’w cymryd ymaith. Gall rhai coed oroesi gan arwain at wrthsafiad genetig cryfach ar gyfer y genhedlaeth nesaf o goed ynn.  Bydd coed ynn sydd â’r clefyd yn cael eu monitro am resymau iechyd a diogelwch a dim ond cael eu tynnu ymaith mewn achosion lle bo’r risg wedi’i hasesu fel un annerbyniol. Ni fydd cael gwared ar goed ynn yn rhagataliol yn arafu lledaeniad, gan ei fod yn cael ei gludo yn yr awyr a gallai atal coed a allai wrthsefyll rhag cael eu canfod. Yn ogystal, mae coed sydd yn marw ac sydd wedi marw yn darparu cynefinoedd da i fywyd gwyllt ac felly’n annog bioamrywiaeth.

Beth alla i ei wneud i helpu?

Os ydych yn berchen ar goed ynn, y ffordd orau o weithredu yw cadw cofnod ffotograffig, ysgrifenedig a dyddiedig yn monitro’u cyflwr. Yn ogystal, os byddwch yn ymweld yn aml ag ardaloedd coedwigol gwnewch yn siŵr eich bod yn glanhau eich esgidiau rhwng safleoedd coedwigoedd a pharcio bob amser ar arwyneb caled yn hytrach na glaswellt, lle bo hynny’n bosibl.

Rhoi gwybod am glefyd coed ynn ar dir y cyngor

Os ydych yn teimlo eich bod wedi canfod yn bositif achos o glefyd coed ynn ar dir y cyngor, yna rhowch wybod naill ai drwy dudalen we Fy Sir Fynwy neu drwy gysylltu â Swyddog Coed y Cyngor (Gweithrediadau). Os ydych yn ansicr i bwy mae’r goeden yn perthyn, gweler ein tudalen pryder penodol am goeden.

Coed ar dir preifat wedi’u heffeithio gan Glefyd Coed Ynn

Coed wedi’u gwarchod

Os oes angen i chi docio neu dorri coed ynn heintiedig ar eich tir eich hun, cyn gwneud unrhyw waith ar goed dylech wirio a ydynt wedi’u diogelu gan y gyfraith ac a oes angen caniatâd. Ar gyfer coed ynn sydd o dan Orchymyn Cadw Coed (GCC) neu o fewn Ardal Gadwraeth, bydd yn rhaid cyflwyno cais ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol er mwyn cael cydsyniad

Gweler ein tudalen we Gorchmynion Cadw Coed i gael mwy o wybodaeth

Efallai y bydd angen Trwydded Torri (Deddf Coedwigaeth 1967) os ydych yn bwriadu torri nifer o goed. Yn ogystal, os yw’r coed o fewn ardal warchodedig, er enghraifft Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), bydd angen cydsyniad arnoch gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae rhagor o wybodaeth am gael caniatâd i dorri coed ar y wefan CNC.

Gwaith coed wrth ymyl y briffordd

Mae gwywiad yr onnen yn achosi i’r pren fynd yn frau, gan wneud torri coed a thocio arall yn anrhagweladwy ac yn fwy peryglus. Am y rheswm hwn, mae’n arbennig o bwysig cael mesurau diogelu priodol ar waith, ac i waith o’r fath gael ei wneud gan weithredwyr cymwys a phrofiadol addas.

Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a’r rhai sy’n cynnal y gwaith, dylai unrhyw waith coed wrth ymyl y briffordd gael ei wneud gan bobl gymwys, gyda mesurau rheoli traffig priodol ar waith. Rhaid i’r rhai sy’n gwneud y gwaith gysylltu ag adran Briffyrdd Cyngor Sir Fynwy yn y cam cynllunio drwy e-bostio highways@monmouthshire.gov.uk

Adnoddau darllen ychwanegol:

https://www.forestresearch.gov.uk/tools-and-resources/fthr/pest-and-disease-resources/ash-dieback-hymenoscyphus-fraxineus/ https://democracy.monmouthshire.gov.uk/documents/s24107/9.%20Ash%20Die%20Back.pdf?LLL=0