Skip to Main Content

Gallwn eich helpu wrth chwilio am swydd newydd.

Gallwch chwilio a gwneud cais am swydd newydd ar-lein ym mhob un o’n llyfrgelloedd. Mae mynediad i’r rhyngrwyd trwy ein cyfrifiaduron personol yn rhad ac am ddim ar gyfer aelodau o’n llyfrgelloedd. Mae Wi-Fi am ddim ar gael hefyd.

Gallwn eich helpu i ddefnyddio’r wefan Universal Jobmatch, eich cyfeirio at wefannau eraill lle y gellir chwilio am waith, a’ch helpu i lunio CV.

Mae Llyfrgell Cil-y-coed a Llyfrgell Cas-gwent yn cynnig sesiynau chwilio am waith am ddim. Mae’r rhain yn sesiynau wythnosol un i un i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar ein mynediad i’r rhyngrwyd am ddim. Cysylltwch â’r llyfrgell i drefnu apwyntiad.