Skip to Main Content

Ydych chi am i blant allu chwarae’n rhydd y tu allan i’w drws ffrynt eu hunain? Mae Chwarae Tu Allan yn fudiad a arweinir gan rieni a phreswylwyr sy’n adfer rhyddid plant i chwarae tu allan yn y strydoedd a’r mannau lle maent yn byw, er mwyn eu hiechyd, eu hapusrwydd a’u hymdeimlad o berthyn. Yn Sir Fynwy, mae arnom eisiau rhoi cymaint o gymorth ag y gallwn i gymunedau i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Ar wefan Chwarae Tu Allan byddwch yn dod o hyd i’r cyfan sydd ei angen arnoch i ddechrau sesiynau ‘chwarae tu allan’ rheolaidd ar eich stryd neu bethau eraill i sbarduno newid lle’r ydych yn byw. Hefyd mae yna syniadau, straeon ac ysbrydoliaeth a gasglwyd gan bobl o amgylch y DU a thu hwnt.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dechrau Chwarae Tu Allan ble rydych chi’n byw yn Sir Fynwy e-bostiwch judithlangdon@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch Jude ar 07970 151970

Chwarae Tu Allan mewn pedwar cam syml

Mae’r wefan Chwarae Tu Allan yn nodi’n syml sut i ddechrau chwarae tu allan mewn pedwar cam syml.  Mae hwn yn ganllaw gwirioneddol dda i sut i gael pethau i fynd lle rydych chi’n byw.  Isod rydym wedi nodi ychydig o wybodaeth ychwanegol am sut mae pob un o’r camau hyn yn gweithio yma yn Sir Fynwy.

Cam 1: Siaradwch â’ch cymdogion

Mae’n bwysig iawn os ydych yn bwriadu cau’r ffordd – hyd yn oed am gyfnod byr iawn, y dylai pawb gael cyfle i roi eu sylwadau.  Er nad yw’n hanfodol cynnal cyfarfod anffurfiol, mae angen i ni wybod bod pawb ar y stryd wedi cael y cyfle i ddweud eu dweud ac argymell eich bod yn siarad â phawb yn bersonol os yw hynny’n bosibl.  Os yw hyn yn teimlo’n ormod, peidiwch â phoeni, mae llawer o bobl yn gallu helpu; i gyd sydd rhaid gwneud yw cysylltu â ni ar yr e-bost isod a byddwn yn cysylltu nôl â chi.

Os na fydd rhai o’ch cymdogion yn cytuno â’r syniad, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu na allwch fynd yn eich blaen.  Gellir datrys y rhan fwyaf o’r pryderon a godir fel arfer ac eir i’r afael â hwy yma. Os nad yw pobl o hyd yn siŵr, gadewch iddynt wybod y byddwch yn mynegi eu pryderon ynghylch pryd y byddwch yn gwneud cais i gau’r ffordd a bod croeso hefyd iddynt gysylltu â’r Cyngor yn uniongyrchol.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweld siarad â’u cymdogion am Chwarae Tu Allan yn brofiad gwirioneddol gadarnhaol ac yn ffordd wych o ddod â’r gymdogaeth at ei gilydd.

Cam 2: Cael caniatâd a chefnogaeth

Er ein bod yn caru’r syniad o roi’r rhyddid i blant chwarae allan ble maen nhw’n byw, nid yw pob ffordd yn addas (dydyn ni ddim yn debygol o gau’r A40 am gêm o chwarae potsh).  Pan fyddwch yn cysylltu â’r cyngor, byddwn yn cael sgwrs â chi ynghylch a yw eich ffordd yn lle priodol a byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i’r man gorau ar gyfer eich sesiwn.

Nid ydym yn codi tâl am y broses ymgeisio a byddwn yn anelu at ei chadw mor syml â phosibl.  Bydd angen i chi ddarparu cynllun o ble yn union yr hoffech i’r cau ffordd i fod a bydd angen caniatáu tua chwe wythnos i’r cais gael ei brosesu.

Mae cau ffyrdd yn broses gyfreithiol ac mae angen i ni sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig yn cael eu cadw’n ddiogel; am y rheswm hwn bydd angen i ni sicrhau bod unigolyn â’r cymwysterau priodol ar y safle er mwyn gosod y ffyrdd a chau’r ffordd.  Weithiau, efallai mai rhywun o’r cyngor neu un o’n partneriaid fydd hyn (yn arbennig os ydych yn rhoi cynnig ar Chwarae Tu Allan am y tro cyntaf) neu rydym yn darparu hyfforddiant am ddim i aelodau’r gymuned fel eich bod yn gallu cau’r ffordd yn ddiogel eich hun.  Fel arfer, rhestrir cyrsiau hyfforddiant sydd ar y gweill ar y dudalen Digwyddiad Cymunedol Eventbrite yma.

Cam 3: Dweud wrth bawb a bod yn barod

Yn Sir Fynwy mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud i’ch helpu i wneud eich sesiwn Chwarae Tu Allan yn llwyddiant.  Mae gennym stoc o arwyddion a chonau cau ffyrdd y gallwn eu benthyg i aelodau’r gymuned ac fel arfer mae modd i ni roi siacedi gweladwy, addas i chi ar gyfer stiwardiaid.  Rydym hefyd yn cadw cyflenwad o gyfarpar chwarae syml fel rhaffau sgipio y mae croeso i chi eu benthyg.

Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant am ddim i aelodau’r gymuned a fyddai’n hoffi cynnal sesiwn Chwarae Tu Allan yn eu stryd.  Mae’r hyfforddiant hwn yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod er mwyn cau’r ffordd yn ddiogel a hefyd arweiniad gwirioneddol hwyliog ar sut mae chwarae ar y stryd fawr yn edrych a sut y gallwch ei helpu i ddigwydd. Mae cyrsiau hyfforddiant chwarae ar y stryd arfaethedig fel arfer yn cael eu rhestru ar y dudalen Digwyddiad Cymunedol Eventbrite yma.

Mae’n bwysig iawn bod yn glir gyda phawb sy’n cymryd rhan, nad ydych yn cynnal digwyddiad cymunedol mawr ac nad ydych yn darparu gofal plant; rydych yn cau’r stryd i ganiatáu i’r plant sy’n byw yn yr ardal gyfagos gael cyfle i chwarae tu allan, ac mae’r rhieni o hyd yn gyfrifol am eu plant bob amser, yn union fel y byddent fel arfer.

Cam 4: Gwneud y stryd yn ddiogel a chwarae tu allan!

Rydych wedi gwneud yr holl waith caled erbyn y pwynt hwn, felly ar y diwrnod dylech allu mwynhau eich hun.  Mae’r ‘Little Book of Playing Out’ ag awgrymiadau a syniadau gwych ar gyfer gemau a chofiwch y gallwn ddarparu hyfforddiant ar chwarae ar y stryd os hoffech ychydig mwy o hyder wrth greu’r amodau i bawb gael hwyl.

Cofiwch wneud yn siŵr bod rhieni yn deall eu bod o hyd yn gyfrifol am eu plant bob amser yn union fel y byddent yn arfer gwneud.  

Ac nid plant yn unig sy’n gallu mwynhau’r stryd di-draffig; mae rhai strydoedd yn Sir Fynwy wedi gwneud cacennau ac wedi dod â fflasgiau te a choffi i’r holl gymdogion gael mwynhau a chael sgwrs.