Skip to Main Content

Mae llawer o resymau pam y gall fod yn anodd weithiau canfod llety, neu pam y gall fod yn anodd cadw’r llety sydd gennych yn barod.

Gall cymorth tai gynnig y help y mae arnoch ei angen i fynd i’r afael â’ch problemau tai megis:

  • Cymorth i sefydlu a rhedeg eich cartref eich hun – sefydlu eich cyflenwyr nwy a thrydan, rheoli eich dyledion ac ôl-ddyledion rhent, neu reoli eich arian a hawlio budd-daliadau, a deall eich cyfrifoldebau fel tenant.
  • Gwneud y gorau o’r ardal rydych yn byw ynddi – eich helpu i edrych am gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant, addysg neu hamdden.
  • Eich rhoi mewn cysylltiad â chymorth ychwanegol – gallwch dderbyn cymorth i ddod o hyd i wasanaethau eraill a all eich helpu gyda materion fel camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a phroblemau iechyd meddwl. Gall gweithwyr cymorth hefyd eich helpu i gysylltu â sefydliadau eraill a grwpiau cymorth.
  • Os ydych yn dioddef o gamdriniaeth yn y cartref, a bod angen cymorth ar frys arnoch, ffoniwch 0808 80 10 800 i gysylltu â Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan, sy’n cynnig cymorth 24 awr y dydd i ddioddefwyr.

Sut mae’r cymorth yn gweithio?

Caiff eich asesu gan staff o’r Tîm Cymorth Tai a fydd wedyn yn gallu gwneud trefniadau i chi dderbyn ymweliadau rheolaidd gan weithiwr cymorth. Bydd y gweithiwr cymorth yn trafod eich problemau gyda chi, a gyda’ch gilydd byddwch yn cytuno ar gynllun cymorth sy’n rhoi gwybod i chi am yr hyn i’w ddisgwyl a pha mor aml y bydd yn ymweld â chi.

Ein nod yw eich helpu i oresgyn y problemau sydd wedi effeithio’n wael ar eich gallu i ddod o hyd i gartref yn y gorffennol, ac eich galluogi i fyw’n annibynnol yn y dyfodol.

Sut i wneud cais am gymorth

Os hoffech chi wneud cais am gymorth tai, naill ai am eich hun neu ar ran rhywun arall, gallwch wneud un o’r canlynol:

  • Ein ffonio i drafod unrhyw faterion ar 01633 740 730
  • Cwblhau ffurflen gyfeirio
  • Anfon e-bost