Skip to Main Content

Mae’r wybodaeth ganlynol yn cael ei chynnig heb ragfarn ac fe’ch cynghorir i chi geisio barn gyfreithiol annibynnol.

C.       “Beth gallaf wneud am ganghennau fy nghymydog sy’n gordyfu dros fy eiddo?”

A          Nid yw’n dramgwydd troseddol i ganiatáu canghennau o goeden neu lwyn gordyfu dros eiddo cyfagos. Nid oes gan eich cymydog felly ddyletswydd gyfreithiol i’w torri yn ôl ar eich cyfer. Fodd bynnag, o dan Gyfraith Gyffredin mae gennych yr hawl, os ydych yn dewis ei ddefnyddio, i drefnu i gael gwared ar unrhyw ganghennau sy’n gordyfu hyd at linell derfyn cyfreithiol eich ffin a dim pellach. Gallwch wneud hyn heb ofyn caniatâd perchennog y goeden yn gyntaf.

C          “A allaf fynd ar ei dir i wneud hyn?”

A          Na, rhaid i chi gael caniatâd y tirfeddiannwr yn gyntaf i wneud hynny.

C          “Beth ddylwn i wneud â’r canghennau rwyf wedi torri i ffwrdd?”

A          Mae beth bynnag sydd wedi’i dorri oddi wrth y goeden, gan gynnwys unrhyw ffrwyth, yn parhau i fod yn eiddo perchennog y goeden, a dylid naill ai eu cynnig yn ôl neu eu gosod yn daclus yn ôl ar y tir lle mae’r goeden yn tyfu.

C          “Mae coeden fy nghymydog yn rhy fawr ac yn rhwystro goleuni.”

A. Nid oes yna hawl gwirioneddol i oleuni dan y gyfraith ac nid yw’n drosedd i ganiatáu i goeden tyfu i unrhyw faint mewn gardd ddomestig. Nid yw’ch cymydog felly’n torri’r gyfraith. Mae’n syniad da i chi gysylltu â’ch cymydog mewn ffordd gyfeillgar ac egluro’r problemau mae’r goeden yn achosi.

C          “Mae coeden fy nghymydog yn amharu ar fy signal teledu.”

A          Eto, nid oes unrhyw hawl gyfreithiol i deledu. Ceisiwch fynd at eich cymydog fel uchod neu, os yw’n ymarferol bosib, symudwch eich erial neu ddysgl lloeren i sefyllfa well, i ffwrdd oddi wrth y goeden.

C          “Ond mae fy nghymydog yn anodd mynd ato, neu’n anghyfeillgar tuag ataf.”

A          Dylech fod yn ymwybodol fod hwn yn fater preifat rhyngoch chi a’ch cymydog ac nid oes gan y Cyngor bwerau na dyletswydd i weithredu. Ni fyddwn yn mynd at eich cymydog ar eich rhan. Gall fod o gymorth i ymgysylltu â thrydydd parti megis Gwasanaeth Cyfryngu Sir Fynwy. Gweler y ddolen ganlynol admin@monmediation.co.uk

C          “Rwy’n pryderu bod coeden fy nghymydog yn beryglus.”

A          Mae gan eich cymydog yr hyn a elwir yn gyfreithiol fel dyletswydd gofal i chi.. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo sicrhau, cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol, nad yw ei goeden yn peri risg annerbyniol i chi neu eich eiddo. Perchennog y goeden yn unig sy’n gyfrifol, a allai fod yn agored i hawliad am esgeulustod, os yw unrhyw fethiant i gael y goeden wedi’i harchwilio a’i chynnal a’u cadw, arwain at anaf neu ddifrod. Fe’ch cynghorir i geisio cyngor cyfreithiol annibynnol ynglŷn â hyn.

C          “Rwy’n credu bod coeden fy nghymydog yn achosi difrod i sylfeini fy nhŷ. Beth gallaf wneud?”

A          Mae angen i chi wirio’r ffeithiau trwy gyflogi unigolyn cymwys megis peiriannydd strwythurol i ymchwilio i’r mater ar eich rhan. Gall y rhan fwyaf o gwmnïau morgais drefnu adroddiad ymsuddiant proffesiynol.

C          “Mae coeden y tu allan i fy nhŷ yn ymyrryd â’r ceblau ffôn.”

A          Rhan fwyaf o’r amser mae’r coed a cheblau ffôn yn cyd-fyw heb broblem ac ond yn dod yn broblem os yw coeden neu gangen yn methu. Os ydych yn amau bod coeden yn ymyrryd â’r ceblau ffôn, cysylltwch â British Telecom ar 01633 843131

C          “Rwy’n poeni bod coeden yn ymyrryd â cheblau trydan uwchben”.

A          Ni ddylech fyth ceisio unioni hyn eich hun. Cysylltwch â Western Power Distribution ar 0800 6783 105 i roi gwybod iddynt am y broblem.

C          “Rwy’n credu bod gwrychoedd fy nghymydog yn rhy uchel. Beth gallaf wneud?”

A          Nid yw’n drosedd i ganiatáu i wrychoedd cyrraedd unrhyw uchder ac nid cyfrifoldeb y Cyngor ydyw i ddatrys eich problem ar eich rhan. Fodd bynnag, mae rhai mathau o wrych fel rhai bytholwyrdd neu led fytholwyrdd (h.y. y rhai sy’n cadw rhai dail yn y gaeaf) yn dod o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y nodyn cyfarwyddyd High hedges: Complaining to the Council manylion hyn i’w gweld ar y ddolen ganlynol yma Awgrymir eich bod yn darllen hwn yn ofalus cyn cysylltu â’r Cyngor.