Skip to Main Content

Mae bioamrywiaeth yn fyr am amrywiaeth fiolegol. Yn syml, ei ystyr yw amrywiaeth bywyd, hynny yw yr holl bethau byw sydd yn y byd naturiol a’r amrywiaeth rhyngddynt. Felly mae’n cynnwys popeth rhwng algae a wiwerod, o facteria i forfilod.

Nid yw bioamrywiaeth wedi’i gyfyngu i rywogaethau prin neu dan fygythiad yn unig, er bod digon o’r ddau yn Sir Fynwy. Mae’n cynnwys popeth byw yn y byd naturiol p’un ai’n gyffredin neu dan fygythiad.

Mae digonedd o ffyrdd i gefnogi bioamrywiaeth a chymryd rhan mewn helpu eich ardal leol. Mae llawer ar gael drwy waith aelodau Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Fynwy. Mae hyn yn cynnwys cymdeithasau lleol a grwpiau sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Gall unrhyw un wneud cyfraniad gwerthfawr.

Safleoedd arbennig

Mae Sir Fynwy’n cynnwys llawer o safleoedd arbennig sy’n bwysig am eu bioamrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys Ardaloedd Arbennig o Gadwraeth (SAC), dynodiad Ewropeaidd, a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI). Gallwch hefyd weld ymhle yn Sir Fynwy y mae’r ardaloedd hyn ar fapiau rhyngweithiol Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Yn ogystal â bod yn SAC, mae Aber Afon Hafren yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA), dynodiad Ewropeaidd arall, ac yn safle Ramsar (dynodiad rhyngwladol). Mae’r Cyngor Sir yn aelod o ASERA (Cymdeithas Awdurdodau Perthnasol Aber Hafren) i helpu rheoli diddordeb arbennig yr aber.

Mae hefyd lawer o safleoedd o bwysigrwydd lleol ar gyfer cadwraeth natur. Bu’r Cyngor Sir yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent i ddynodi safleoedd bywyd gwyllt lleol. Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent yn rhoi cyngor ar reoli i berchnogion safleoedd bywyd gwyllt lleol.

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Fynwy yn bodoli i ddatblygu a gweithredu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Fynwy. Mae’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol yn anelu i ddiogelu, cadw a lle’n bosibl wella bioamrywiaeth yn Sir Fynwy.

Mae aelodau cynnwys nifer o sefydliadau lleol a naturiaethwyr annibynnol sy’n rhannu’r nod o gadw bioamrywiaeth leol. Mae’r Cyngor Sir yn rhoi cefnogaeth ac yn arwain yn y bartneriaeth ar hyn o bryd.

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Fynwy yn derbyn cymorth grant gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae’r Cyngor Sir hefyd yn gweithio gyda SEWBReC, y ganolfan cofnodion biolegol lleol ar er de ddwyrain Cymru. Mae SEWBReC yn darparu gwasanaeth ar gyfer casglu, rhannu a ddefnyddio’r cyfoeth o ddata a gwybodaeth biolegol sy’n bodoli i helpu rhoi gwybodaeth ar gyfer penderfyniadau a all effeithio ar fioamrywiaeth. Mae SEWBReC hefyd yn cefnogi’r gymuned o naturiaethwyr amatur sy’n cyflenwi’r cofnodion hyn, yn cynnwys Fforwm Cofnodwyr Gwent.

Wedi gweld rhywbeth diddorol?

Gall fod yn werthfawr cofnodi a rhoi adroddiad am fywyd gwyllt y digwyddwch ei weld. Mae defnyddio ffurflen gofnodi ar-lein SEWBReC yn ffordd syml o wneud hyn. Mae gwybodaeth yn helpu i achub bywyd gwyllt a chynefinoedd bywyd gwyllt sy’n ffurfio’r fioamrywiaeth a rannwn.

Mae mwy o wybodaeth am gofnodi bioamrywiaeth ar gael gan y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol a SEWBReC

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol

Mae’r Cyngor Sir wedi mabwysiadu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Fynwy. Cynhyrchwyd y Cynllun gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Sir Fynwy a’r Cyngor Sir gyda chefnogaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol yn rhoi’r ddolen rhwng targedau bioamrywiaeth cenedlaethol a rhanbarthol a blaenoriaethau a gweithredu lleol. Rydym yn rhoi adroddiadau’n gyson ar gamau gweithredu lleol fel rhan o rwydwaith adrodd sy’n weithredol ar draws y Deyrnas Unedig.

Gallwch lawrlwytho’r Cynllun Gweithredu Amrywiaeth Lleol neu gysylltu â ni i gael copi print o’r cynllun.

Mae gan y cynllun dri rhan:

Rhan A – Fframwaith Bioamrywiaeth

Mae hyn yn rhoi manylion pwysigrwydd bioamrywiaeth. Mae’n rhoi gwybodaeth am fyw’n gynaliadwy ac ystyried bioamrywiaeth yn eich bywyd bob dydd.

Rhan B – Cynlluniau Gweithredu Cynefinoedd a Rhywogaethau

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth benodol ar gefndir, amcanion a chamau gweithredu yn gysylltiedig â chynefinoedd blaenoriaeth a rhywogaethau ar gyfer sir Fynwy. Caiff cynefinoedd a rhywogaethau pellach eu hychwanegu fel y caiff cynlluniau eu hysgrifennu.

Rhan C – Canllawiau Cynllunio

Mae hyn yn rhoi canllawiau ar ystyried bioamrywiaeth yn y broses gynllunio. Cafodd ei ysgrifennu i gael ei ddefnyddio gan ddatblygwyr, cynllunwyr ac eraill sy’n ymwneud â’r broses gynllunio. Mae Nodiadau Cyngor ar Rywogaethau a Chynefinoedd yn cynnwys y rhywogaethau a’r cynefinoedd sydd fwyaf tebygol o fod yn berthnasol yn ystod y broses cynllunio. Mae’r rhan yma o’r cynllun yn cyflawni’r gofyniad y dylai Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol gael eu haddasu fel Canllawiau Cynllunio Atodol i’r cynllun Datblygu Unedol.