Skip to Main Content

Diolch i chi

Ar ran Cyngor Sir Fynwy, hoffem ddiolch o galon i chi a’ch teulu am fynegi diddordeb i ddod yn noddwr fel rhan o’r Cynllun Cartrefi  i Wcráin. Mae eich cefnogaeth tuag y sawl sydd mewn angen yn symboleiddio haelioni a rhinweddau’r cymunedau lleol. Mae Cyngor Sir Fynwy yn croesawu’r bobl hynny sydd yn ffoi gwrthdaro. Rydym wedi cefnogi ffoaduriaid yn y gorffennol a byddwn yn gwneud pob dim posib er mwyn cefnogi’r sawl sydd yn ceisio dianc o’r argyfwng  yn Wcráin. Mae’r gefnogaeth yma hefyd  ar gael i chi hefyd ac aelodau o aelwyd y Noddwr. Rydym yn gwerthfawrogi bod noddwyr yn gwirfoddoli helpu’r bobl newydd hynny sydd yn cyrraedd ac ni fyddem yn medru gwneud hyn oni bai amdanoch.  Byddwn yn eich cefnogi chi a’r sawl sydd yn cyrraedd gymaint ag sydd yn bosib ac yn mynd ar y daith hon gyda’n gilydd. 

Bydd y pecyn yma yn darparu’r holl wybodaeth sydd angen arnoch er mwyn cael mynediad at y gefnogaeth sydd ar gael i chi. Os oes cwestiynau pellach gennych, cysylltwch gyda ni – ukrainesupport@monmouthshire.gov.uk 01633 644644

Unwaith eto, diolch am eich caredigrwydd a’ch haelioni wrth gefnogi’r Cynllun Cartrefi i Wcráin.

Cyflwyniad

Yn ystod y mis diwethaf, mae bywydau miliynau o bobl o Wcráin wedi newid yn llwyr o ganlyniad i ryfel na achoswyd ganddynt. Maent wedi gweld eu cartrefi wedi’u dinistrio, eu teuluoedd wedi’u rhwygo, a’u bywydau mewn darnau.

Drwy ymuno â’r cynllun hwn a chofrestru fel noddwr, rydych yn dangos caredigrwydd anhygoel. Rydych yn estyn cyfeillgarwch i ddieithryn pan fo ei angen fwyaf arno. Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod, byddwch yn helpu unigolion a theuluoedd i ddod at eu hunain ac addasu i fywyd yng Nghymru.

Cymru yw’r ‘Genedl Noddfa’ gyntaf yn y byd. Wrth i bobl o Wcráin gyrraedd Cymru, rydym am wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cefnogi er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael noddfa, a’u bod yn gallu dod o hyd i wasanaethau cyhoeddus i’w helpu.

Nid oes llawer o bethau mewn bywyd sy’n fwy anodd na gorfod ffoi o’ch gwlad a dechrau bywyd newydd, yn arbennig mewn sefyllfaoedd fel y rhai rydym yn eu gweld yn Wcráin.
Wrth gefnogi rhywun sydd wedi gorfod symud o’i gartref, mae’n debygol iawn y bydd angen i chi, a’r unigolyn a’r teulu rydych yn eu noddi, ddysgu llawer mewn amser byr. Mae’r canllaw hwn yn cynnwys cyngor ymarferol a dolenni defnyddiol ar y ffordd orau o gefnogi’r unigolyn neu’r teulu rydych yn ei noddi.
Rydym yn gobeithio y bydd y canllaw hwn yn adnodd cyfeirio defnyddiol, ond gwyddom hefyd nad yw bywyd bob amser yn syml. Felly os byddwch yn cael problemau o ran eich trefniant noddi yn ystod y misoedd nesaf, dylech gysylltu ar unwaith â’ch awdurdod lleol sy’n barod i roi cymorth. 

Drwy agor eich cartref a chynnig eich amser a’ch haelioni, byddwch yn rhoi’r gwerthoedd sydd mor bwysig i  ni ar waith, ac yn cymryd eich lle mewn traddodiad hir a helaeth o estyn trugaredd i’r bobl hynny sydd ei angen fwyaf. Gobeithio y byddwch yn gweld y profiad hwn yn werth chweil.

CEFNOGAETH GAN GYNGOR SIR FYNWY

Mae canllawiau’r  Llywodraeth yn amlinellu’r gofynion ar awdurdodau lleol i gefnogi’r noddwyr ac mae’r wybodaeth isod yn amlinellu’r hyn yr ydych yn medru ei ddisgwyl gan eich awdurdod lleol dros y misoedd nesaf.  
 
Mae eich awdurdod lleol yn gyfrifol am gefnogaeth fel:

  • Cofrestru ysgolion mewn ysgolion lleol;
  • Darparu cyngor ar wasanaethau cymorth i deuluoedd fel costau gofal plant
  • Dosbarthiadau Saesneg ar gyfer  Siaradwyr Ieithoedd Eraill;
  • Gweithio gyda byrddau iechyd lleol er mwyn cyfeirio unigolion at lwybrau cyngor ac atgyfeirio a gwasanaethau iechyd cyhoeddus fel sydd yn briodol, e.e.  imiwneiddio neu sgrinio ar gyfer TB.
  • Dylid darparu cyngor am wasanaethau cymorth pellach fel sefydlogi cychwynnol, cwnsela a chymorth iechyd meddwl, gofal cymdeithasol i oedolion a gwasanaethau plant, fel sydd angen.
  • Trefnu apwyntiadau gyda’r Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer asesiadau budd-daliadau, gan gynnwys taliadau argyfwng tra bod budd-daliadau yn cael eu trefnu.

 Dylech hefyd geisio helpu’r person neu’r teulu yr ydych yn noddi i fanteisio ar wasanaethau cyhoeddus fel ysgolion a Chanolfannau Byd Gwaith. Bydd y canllaw hwn yn rhoi cyngor ymarferol i chi ynghyd â dolenni defnyddiol. 

BYDDWCH YN YMWYBODOL/SENSITIF OS GWELWCH YN DDA…
 
Hoffem ddiolch i chi am gynnig cymorth i’r teuluoedd sydd yn ffoi’r argyfwng yn Wcráin.  Mae lefel y gefnogaeth leol ar gyfer Cynllun Cartrefi i Wcráin yn dyst i’r haelioni ac ewyllys da o fewn cymunedau lleol. Nid oes amheuaeth y bydd eich rôl yn cefnogi’r unigolion ac mae  hyn yn amhrisiadwy.
 
Drwy gydol eich taith (yn cefnogi’r unigolion sydd yn cyrraedd), mae’n debygol y bydd eich gwesteion yn rhannu gwybodaeth sensitif a phersonol a byddem yn annog noddwyr i fod yn ofalus ynglŷn â rhannu unrhyw wybodaeth sensitif/personol neu anecdotaidd am eich gwesteion gydag unrhyw un sydd y tu allan i’r aelwyd, ac felly, byddwch yn ofalus ynglŷn â rhannu manylion eich gwesteion ar y cyfryngau cymdeithasol neu unrhyw rwydweithiau eraill.
 

DIOGELU

Mae diogelu yn golygu cadw plant ac oedolion yn ddiogel rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a’r Heddlu sy’n bennaf gyfrifol am ymateb pan fydd unrhyw un yn pryderu eu bod nhw neu rywun arall mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod. Fodd bynnag, mae angen i rywun roi gwybod iddynt am bryder cyn y gallant helpu. Efallai y byddwch yn gweld neu’n clywed rhywbeth sy’n gwneud ichi boeni bod yr unigolyn neu’r teulu rydych yn ei noddi mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod. Mae sawl ffurf i gam-drin – er enghraifft, corfforol, emosiynol, rhywiol ac ariannol.

Efallai eich bod yn pryderu am y ffordd y maent yn trin eu plant neu eu perthnasau, neu’r ffordd y mae rhywun arall yn eu trin nhw. Efallai y byddwch hefyd yn gweld neu’n clywed rhywbeth sy’n gwneud ichi boeni bod eich plant chi, eich perthnasau chi neu rywun arall mewn perygl oherwydd ymddygiad yr unigolyn neu’r teulu rydych yn ei noddi. Efallai y gwnaiff yr unigolyn neu’r teulu rydych yn eu noddi o Wcráin hefyd gofyn am eich help i roi gwybod am bryder o’r fath

Gofyn am help yw’r peth iawn i’w wneud. P’un a ydych yn poeni am blentyn neu oedolyn o Wcráin, neu amdanoch chi eich hun, eich teulu neu rywun yn y gymuned.  Mae’n bwysig rhannu’r pryderon hyn cyn gynted ag y gallwch. Os ydych yn poeni bod rhywun mewn perygl uniongyrchol o niwed, er enghraifft os bydd plentyn neu oedolyn o Wcráin yn mynd ar goll, yna dylech ffonio’r Heddlu ar 999.

Bydd eich awdurdod lleol yn rhoi gwybodaeth ichi am sut i gysylltu â’ch gwasanaethau cymdeithasol lleol os ydych yn poeni y gallai rhywun fod mewn perygl o niwed, camdriniaeth neu esgeulustod. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ar wefan eich awdurdod lleol drwy chwilio am enw eich awdurdod lleol ac yna mynd i’r adran iawn ynghylch rhoi gwybod am blentyn mewn perygl neu roi gwybod am oedolyn mewn perygl.

Mae hyfforddiant ar-lein ar gael sy’n rhad ac am ddim, a gall hwnnw eich helpu i ddeall mwy am ddiogelu. Mae ar gael drwy borwr Google Chrome. Ewch i wefan https://learning.wales.nhs.uk/?lang=cy.

GWIRIADAU GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS)
Bydd angen i’r holl noddwyr ac aelodau’r teulu sydd yn byw yn y llety a’n hŷn na 16 mlwydd oed i gael gwiriad DBS. Bydd yr awdurdod lleol yn pennu pa wiriad(au) DBS (sylfaenol neu fanwl) sydd angen yn unol gyda chanllawiau’r llywodraeth. Ni fydd noddwyr yn gorfod talu am y gwiriadau yma. Bydd yr awdurdod lleol ar gael er mwyn eich cefnogi chi gyda’r gwiriadau DBS ac ar gael i drafod unrhyw bryderon neu ymholiadau sydd gennych. 
 

YMWELIAD Â’R CARTREF
Bydd y Cyngor yn cynnal ymweliad cychwynnol gyda’r cartref er mwyn sicrhau bod y llety sy’n cael ei ddarparu yn addas. Mae angen i ni wneud hyn gan Llywodraeth Cymru  a bydd yn cael ei gynnal ar y cyd gyda’r Gwasanaethau Iechyd Amgylcheddol a’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd swyddog o’r Adran Iechyd Amgylcheddol a Thai yn cysylltu gyda chi er mwyn trefnu apwyntiad i arolygu eich cartref, a hynny ar adeg sydd yn gyfleus i chi lle bynnag lle bo’n bosib. Os nad ydych yn berchen ar eich tŷ h.y. rydych yn rhentu, rhowch wybod i’r swyddog pan fydd yn cysylltu gyda chi. Bydd unrhyw swyddogion sydd yn ymweld gyda chi yn dangos eu dogfennau adnabod  sydd yn dynodi ei fod yno ar ran y Cyngor.

Cyn yr arolwg, bydd y ddwy adran yn gwirio cyfeiriad eich cartref yn erbyn eu cronfeydd data. Gan eich bod wedi gwirfoddoli i fod yn noddwr, rydym yn cymryd eich bod yn rhoi’r caniatâd i ni wneud hyn ond rhowch wybod i ni os nad ydych yn hapus gyda hyn.
 

GWYBODAETH AM Y TALIADAU

Bydd y Cyngor yn darparu taliad cychwynnol o £200 fel arian parod i bob unigolyn newydd sydd yn cyrraedd. Byddwn yn cysylltu er mwyn gwneud y trefniadau ar gyfer hyn. Bydd y Cyngor yn gyfrifol am weinyddu’r taliad misol o £350 fel “diolch” i chi am letya’r bobl o Wcráin – hynny yw, os ydych am dderbyn y fath daliad. Mae’r swm misol wedi ei gyfyngu i £350 ar gyfer pob cyfeiriad preswyl ac nid oes ots faint o bobl yr ydych yn lletya. Bydd y taliad cyntaf ond yn cael ei wneud ar ôl i ni gwblhau’r gwiriadau sydd wedi eu hamlinell uchod.

At hyn, fel arwydd o ddiolch gan Gyngor Sir Fynwy, byddwn yn rhoi cerdyn rhodd gwerth   £500 i chi brynu eitemau hanfodol ar gyfer y sawl sydd yn cyrraedd, tra hefyd yn darparu gliniadur er mwyn i chi ei roi i’ch gwesteion.   

DARPARU CYMORTH
Mae yna sawl peth, ynghyd â chynnig llety, yr ydych yn medru gwneud er mwyn helpu’r person neu’r teulu yr ydych yn noddi, i ymgartrefu.  

CASGLU O’R MAES AWYR/PORTHLADD:

Er nad oes rhaid ichi wneud hyn, gallwch drefnu i gasglu’r unigolyn rydych yn ei noddi o’r maes awyr neu’r porthladd pan fydd yn cyrraedd y DU. Os nad oes modd ichi wneud hyn, dylech roi gwybod iddo am y ffordd orau o gyrraedd eich cartref o’r pwynt lle mae’n cyrraedd y DU. O ddydd Sul 20 Mawrth ymlaen, bydd ganddo’r hawl i gael un tocyn unffordd am ddim ar y rheilffordd genedlaethol, rheilffordd ysgafn, bws a choets i’w gyrchfan derfynol. At hynny, mae Trafnidiaeth Cymru wedi sefydlu cynllun chwe mis i roi cyfle i bobl o Wcráin deithio am ddim ar bob gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru ar ôl dangos eu pasbort i gasglwyr tocynnau a staff gorsafoedd. Bydd yr holl wybodaeth am hyn, gan gynnwys adnodd cynllunio taith er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i’w ffordd, ar gael yma:
https://www.nationalrail.co.uk/ukr-travel.aspx

TRAFNIDIAETH A DOD O HYD I’W FFORDD O GWMPAS:
Mae’n annhebygol y bydd yr unigolyn neu’r teulu rydych yn ei noddi yn gyfarwydd â’ch ardal leol, nac yn gwybod sut i ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas yn hawdd. Byddai’n ddefnyddiol iawn pe byddech yn gallu rhoi cyngor ymarferol ar faterion megis teithio i’ch cartref, ble mae’r siopau lleol, a ble i ddal y bws neu’r trên. Fel noddwr, nid oes disgwyl ichi ddarparu trafnidiaeth i’r bobl rydych yn eu noddi pan fyddant yn aros gyda chi.
 

BWYD A CHOSTAU BYW:

Nid yw’n ofynnol yn ffurfiol i chi dalu costau bwyd a chostau byw’r bobl rydych yn eu noddi, ond efallai y byddwch am wneud hynny, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Bydd modd i bawb sy’n dod i’r DU drwy’r cynllun i gael swydd a gwneud cais am fudd-daliadau os bydd angen. 

AGOR CYFRIF BANC

Mae yna ystod o fanciau ar gael ac rydych yn medru dewis banc sydd yn addas i chi. Mae yna ddarparwyr ar-lein yn unig y mae modd eu defnyddio. Er mwyn agor cyfrif banc, byddwch fel arfer angen danfon dogfennau adnabod fel pasbort,  BRP neu drwydded yrru neu gerdyn adnabod cydnabyddedig a phrawf o’ch cyfeiriad fel eich cytundeb tenantiaeth neu un o’ch biliau nwy, trydan neu ffôn.

Dylid gofyn am unrhyw ffioedd pan eich bod yn agor cyfrif banc. Unwaith eich bod yn agor cyfrif, byddwch yn derbyn cerdyn debyd. Mae llawer iawn o’r cardiau yn rhai  digyffwrdd – bydd rhai siopau a darparwyr cludiant ond yn derbyn taliadau digyffwrdd, er enghraifft yn Llundain,  gofynnwch i’ch banc am hyn. Rydych hefyd yn medru  gofyn i’ch banc am hyn.

Rydych hefyd yn medru trefnu bod eich biliau yn cael eu talu’n uniongyrchol o’ch cyfrif gan ddefnyddio ‘debyd uniongyrchol’.  Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â sut i agor cyfrif banc ar gael yma:

https://www.citizensadvice.org.uk/debt-and-money/banking/getting-abank-account

HELPU’R BOBL HYNNY sy’n GYMWYS I GAEL CYMORTH ARIANNOL:
Os yw’r unigolyn neu aelodau’r teulu rydych yn eu noddi yn ddigon hen i weithio, bydd modd iddynt wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Byddant hefyd yn gallu gwneud cais am ragdaliadau, os byddant yn gymwys. Bydd gan bobl o Wcráin sydd o oedran pensiwn yr hawl i gael Credyd Pensiwn y Wladwriaeth a Budd-dal Tai, ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwystra. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r ddolen yma os gwelwch yn dda:
https://www.understandinguniversalcredit.gov.uk/support-for-those-fleeingthe-conflict-in-ukraine/
 
Gall Cyngor ar Bopeth Cymru roi cyngor ar fudd-daliadau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan, Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch 0800 702 2020. Gallwch ffonio rhwng 9am a 5pm ddydd Llun i ddydd Gwener.
https://www.sanctuary.gov.wales/ukraine/money

IECHYD A GOFAL MEDDYGOL 
Wedi cyrraedd, dylai unigolion gael eu hannog i gofrestru gyda Meddyg Teulu a’u hatgoffa fod darpariaeth iechyd am ddim gyda’r GIG. Yn dilyn asesiad o’u hanghenion iechyd, bydd gofal iechyd priodol yn cael ei drefnu.  

Cofrestru gyda Meddyg Teulu (Canolfan Iechyd)
Yng Nghymru, mae gwasanaethau iechyd cenedlaethol yn golygu bod gofal meddygol am ddim i bawb sydd yn cyrraedd a’ch bwrdd iechyd yn Sir Fynwy yw  Aneurin Bevan. Mae noddwyr yn medru helpu gwesteion i gofrestru gyda’r Feddygfa Leol – mae modd gwneud hyn drwy fynd i’r feddygfa a llenwi ffurflen claf newydd.   

Cofrestru gyda Deintydd

Mae cofrestru gyda deintydd ychydig yn wahanol yn sgil rhestrau aros y GIG mewn practisau  lleol. Mae modd i chi gysylltu gyda’ch bwrdd iechyd lleol am fwy o wybodaeth – Llinell Gymorth Deintyddol Aneurin Bevan ac mae’r rhif cyswllt yr un peth ar gyfer yr hwyr/penwythnos/gŵyl y banc: 01633 744387

Neu mae modd i chi fynd i http://www.wales.nhs.uk/eingwasanaethau/dodohydideintyddgig er mwyn dod o hyd i ddeintydd GIG yn eich ardal chi neu’r ardal agosaf sydd yn derbyn cleifion newydd. Mae pawb o dan 18 mlwydd oed yn derbyn apwyntiadau a thriniaethau gan y deintydd am ddim.   

111 – Meddyg Teulu y tu allan i oriau; mae’r gwasanaeth  111 ar gael 24 awr y dydd ac mae modd i chi ei ddefnyddio er mwyn derbyn cyngor iechyd ar frys a chyngor ar ba wasanaethau y mae modd eu defnyddio neu sut i reoli unrhyw salwch neu gyflwr a chael mynediad at ofal cynradd brys y tu allan i oriau (os yw’r gwasanaeth yma ar gael yn eich ardal). Mae hyn yn cynnwys  Language Line, Relay 24 ac Interpreter now.

999 – dylid ond defnyddio’r rhif yma mewn argyfyngau meddygol / sy’n peryglu bywyd.   

ADDYSG
SUT I GOFRESTRU EICH PLANT I MEWN I ADDYSG   
Bydd angen i’r holl blant o oedran ysgol i gofrestru gydag ysgol cyn gynted ag sydd yn bosib.  Bydd yr holl geisiadau am le mewn ysgol yn cael eu prosesu yn unol gyda Pholisi Derbyn i ysgolion y Cyngor, ac felly, ni fodd yn bosib derbyn plant i ysgolion lle y mae’r flwyddyn eisoes yn llawn; fodd bynnag, bydd y Cyngor yn gweithio gyda theuluoedd  i ddod o hyd i opsiynau amgen cyn gynted ag sydd yn bosib.   
 
O fewn Sir Fynwy, mae pobl ysgol yn gwasanaethu ardal draddodiadol  sydd yn cael ei galw’n ‘ardal dalgylch;. Rydych yn medru dod o hyd i’r ysgol yn eich ardal dalgylch drwy fynd i: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/applying-for-a-school-place/

Pan fyddwch yn ymweld â’r safle, bydd angen i chi nodi’ch cod post a byddwch yn gallu dewis rhwng meithrinfeydd ac ysgolion cynradd ac uwchradd. Os oes angen rhagor o gymorth neu wybodaeth arnoch, cysylltwch â: Tîm Derbyn i Ysgolion 01633 644508 neu e-bostiwch accesstolearning@monmouthshire.gov.uk
 
CLUDIANT YSGOL
Yn gyffredinol, mae cludiant am ddim wedi’i gyfyngu i ddisgyblion sy’n mynychu’r ysgol yn eu dalgylch ac sy’n byw’r pellter angenrheidiol o’r ysgol. Disgyblion oed cynradd (Derbyn i Flwyddyn 6) – Darperir cludiant am ddim os yw’r disgybl yn byw mwy na 2 filltir o’r ysgol ddalgylch. Disgyblion oed Uwchradd (Blynyddoedd 7 i 11) – Darperir cludiant am ddim os yw’r disgybl yn byw mwy na 3 milltir o’r ysgol ddalgylch.
 
Mae cludiant am ddim ar gael i’r ysgol eglwys agosaf yn unol â’r meini prawf pellter a grybwyllir uchod ac ar yr amod bod rhieni plentyn a/neu eu plentyn yn glynu at ffydd enwadol yr ysgol dan sylw. Mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl, fodd bynnag, i’w gwneud yn ofynnol i rieni gyflwyno tystiolaeth ddogfennol cyn penderfynu ar eu hawl. Gwnewch gais am gludiant o’r Cartref I’r Ysgol drwy fynd i:
https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/bysiau-ysgol-2018-19/

Mae’n bosib y gall disgyblion lenwi seddi sbâr ar fysiau ysgol fel consesiwn dros dro er nad ydynt yn bodloni’r meini prawf y cyfeirir atynt uchod. Nid yw’r Awdurdod yn codi unrhyw dâl ar hyn o bryd am ddarparu cludiant mewn achosion o’r fath. Efallai y bydd angen tynnu consesiynau yn ôl ar fyr rybudd ac ni chânt eu darparu ar gyfer cludiant ar wasanaethau bws lleol. Mae angen gwneud ceisiadau am gludiant rhatach bob blwyddyn academaidd a derbynnir ceisiadau o’r 1af Gorffennaf ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Sylwch na fydd cludiant rhatach yn cael ei ddyrannu tan ganol mis Medi bob blwyddyn. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Tîm Cludiant ar 01633 644777 or passengertransportunit@monmouthshire.gov.uk.

ADDYSG I OEDOLION ESOL – Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill


Disgrifiad: Mae’r cyrsiau yma’n diwallu anghenion pobl nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Mae dosbarthiadau ar gael i ddechreuwyr pur a’r rheiny sydd am ddatblygu eu Saesneg a dysgu am fywyd yn y DU. Gwellwch hyder wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Dysgwch mewn grwpiau bach, cyfeillgar trwy amrywiaeth o weithgareddau fel trafodaethau mewn grŵp, gemau iaith, posau a chwarae rôl. Manylion Cyswllt – cefnogwch eich gwesteion i gofrestru mewn dosbarthiadau ESOL am ddim yn y gymuned.  communityed@monmouthshire.gov.uk

TAI
Canllawiau ar lety

Mae pob math o lety’n wahanol, ac er nad oes disgwyliadau penodol, mae’n rhaid sicrhau bod eich llety yn rhydd o beryglon difrifol i iechyd a diogelwch. Dylech ofalu bod eich cartref yn ddiogel i’r unigolyn neu’r teulu o Wcráin ac mewn cyflwr addas. Dylech ystyried hefyd sawl unigolyn y gallwch ei dderbyn, gan sicrhau bod digon o le i bawb. Ni ddylai dau unigolyn rannu ystafell oni bai eu bod: yn oedolion sy’n cyd-fyw â’i gilydd fel partneriaid; yn rhiant a phlentyn; yn ddau frawd neu’n ddwy chwaer os ydynt dros 10 oed; yn frodyr neu’n chwiorydd o’r naill ryw neu’r llall os ydynt dan 10 oed. Ni ddylid rhoi unigolion nad oeddent yn nabod ei gilydd o’r blaen yn yr un ystafell.

  • Rydym hefyd yn gofyn i chi bod y llety;
  • yn cael ei gadw’n lân ac mewn cyflwr rhesymol;
  • bod lle digonol mewn cegin ac ystafell ymolchi; bod dŵr yfed ar gael; bod synhwyrydd mwg sy’n gweithio ar bob un o loriau’r eiddo, a mesurau diogelwch tân eraill addas, er enghraifft, drysau tân neu lwybrau dianc fel y bo’n briodol
  • (mae gwybodaeth bellach am wneud cartref yn ddiogel rhag tân ar gael yma – https://www.gov.uk/government/publications/make-your-home-safe-fromfire.) 
  • bod synhwyrydd carbon monocsid sy’n gweithio mewn unrhyw ystafell sy’n cynnwys dyfais llosgi tanwydd solet (er enghraifft, tân glo, stof llosgi coed); bod digon o wres i gadw’r eiddo ar dymheredd cyfforddus; bod y dyfeisiau nwy, y ffitiadau a’r ffliwiau yn ddiogel a bod gwiriad diogelwch nwy wedi ei wneud o fewn y flwyddyn ddiwethaf
  • (mae mwy o wybodaeth ar wefan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch); bod y trydan yn gweithio ac yn ddiogel – gall trydanwr cymwys helpu os ydych yn ansicr; nad oes lleithder na llwydni yn y llety o gwbl, fwy neu lai; bod y drysau a’r ffenestri ar y llawr mynediad yn cloi’n iawn; ei bod yn hawdd ac yn ddiogel symud o gwmpas yn y llety, heb risiau rhy serth a allai achosi niwed.

GWYBODAETH DDEFNYDDIOL
Iaith swyddogol Wcráin yw’r Wcreineg. 
Dyma rai ymadroddion defnyddiol yr ydych yn medru eu defnyddio:
Hi — Привіт /Pryvit/
Helo – Добрий день /Dobryi den’/
Esgusodwch fi — Вибачте /vybachte/
Sut ydych chi? — Як справи? /Yak spravy/
Da iawn — Дуже добре /Duzhe dobre/
Croeso (Будь ласка) — /Bud’ laska/
Diolch — Дякую /Dyakuyu/
Hwyl fwr — (До побачення) /Do pobatchennya/

Beth os bydd y trefniant noddi yn chwalu?

Os bydd angen ichi ddod â’r trefniant noddi i ben yn gynnar am unrhyw reswm, dylai noddwyr roi gwybod i’r awdurdod lleol cyn gynted â phosibl. Mae mwy o ganllawiau ar rannu eich cartref gyda lletywr ar gael yma – https://www.gov.uk/rent-room-in-your-home/yourlodgers-tenancy-type.

Mae llinell gymorth wedi ei lansio i roi cyngor a chanllawiau i bobl sy’n dod i Gymru o Wcráin ac i bobl sy’n gweithredu fel noddwyr. I bobl yn y DU, y rhif yw: Rhadffôn 0808 175 1508; i’r bobl y tu allan i’r DU, y rhif yw: +44 (0)20 4542 5671. Bydd y llinell gymorth ar gael rhwng 9am a 5pm, dydd Llun – Gwener. Os yw eich sefyllfa dai yn un brys, byddwch yn cael eich atgyfeirio at y Gwasanaeth Datrysiadau Tai. Bydd sefyllfa frys o bosib yn cynnwys rhywun yn cysgu ar y stryd neu ar fin cael eu troi allan. Bydd y tîm wedyn yn asesu eich amgylchiadau personol ac yn penderfynu’r cymorth yr ydych yn gymwys i’w dderbyn. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda: Datrysiadau Tai  Ffôn 01633 644644. E-bost HousingOptions@monmouthshire.gov.uk. Rhif ffôn y tu allan i oriau swyddfa   01633 644644

BANICAU BWYD – FOODBANKS
Monmouth Baptist Church, 3 Monk Street,
Monmouth, NP25 3LR  info@monmouthdistrict.foodbank.org.uk 
Abergavenny Foodbank, Abergavenny Baptist Church, Frogmore Street, Abergavenny NP7 5AL
info@abergavenny.foodbank.org.uk
Caldicot Foodbank, 35 Sandy Ln, Caldicot NP26 4NA
caldicotfoodbank@yahoo.co.uk
Chepstow foodbank, c/o The Bridge Church, Unit 1a Critchcraft Buildings, Bulwark Industrial Estate, Chepstow NP16 5QZ info@chepstow.foodbank.org.uk

MANYLION CYSWLLT

Os ydych angen unrhyw gymorth pellach neu’n ansicr ynglŷn â rhywbeth, yna cysylltwch gyda ni – ukrainesupport@monmouthshire.gov.uk – neu ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 01633 644644. Byddant yn sicrhau ein bod yn cyfeirio eich ymholiad at y person priodol. Rydych hefyd yn medru cysylltu gyda llinell gymorth  Llywodraeth Cymru ar gyfer y sawl sy’n lletya pobl o Wcráin ar 0808 175 150