Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd y mae eu heisiau arnoch ac rydych yn ffyddiog ohonynt, ond weithiau mae pethau’n mynd o chwith ac nid ydym yn bodloni ein safonau arferol. Pan fydd hyn yn digwydd, mae angen i ni wybod am y peth. Yn yr un modd, hoffem petaech chi’n rhoi gwybod i ni am unrhyw awgrymiadau neu sylwadau sydd gennych efallai am welliannau i wasanaethau neu ganmoliaethau am rywbeth a wnaethom yn dda.
Mae eich adborth yn bwysig i ni; rydym eisiau dangos i chi ein bod yn:
• Gwrando
• Dysgu o’n camgymeriadau
• Ymdrechu’n barhaus i wella ein gwasanaethau