Amgylchedd hanesyddol

Mae dimensiwn hanesyddol yn rhan o lawer o’r agweddau ar ein hamgylchedd. Boed yng nghefn gwlad neu drefi, mae cenedlaethau wedi rhyngweithio â natur ac wedi ffurfio’r byd o’n cwmpas.

Rydym ar y cyfan yn ymwybodol o henebion hynafol ac adeiladau dynodedig, ond mae gweithgarwch dynol y gorffennol yn cael ei adlewyrchu hefyd yn ein hamgylchiadau bob dydd ac yn y dirwedd.

Cymeriad yr amgylchedd hwn yw un o’n hasedau cymdeithasol mwyaf pwysig. Mae’n cysylltu pobl â lleoedd, gan greu hunaniaeth a chydlyniant cymunedol. Mae hefyd yn ased economaidd pwysig sy’n cyfrannu at dwristiaeth ac apêl y sir i fuddsoddwyr.

Mae’r amgylchedd hanesyddol yn adnodd bregus. Unwaith y caiff elfennau eu dinistrio neu eu newid, anaml y gellir eu hadfer, a gall cymeriad ac ansawdd gael eu herydu gan weithredoedd difeddwl. Mae gennym ddyletswydd i ddiogelu asedau hanesyddol o bwys cenedlaethol neu ryngwladol.

Mae’r tîm cadwraeth yn canolbwyntio ar adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth, ond mae dynodiadau eraill sydd yr un mor bwysig i gymeriad Sir Fynwy a’n dealltwriaeth ohoni – sef archeoleg, henebion cofrestredig, a pharciau a gerddi.

Mae’r adrannau canlynol yn cynnwys gwybodaeth berthnasol a manylion cyswllt ar y pynciau hyn.

Adeiladau rhestredig

Mae gan Sir Fynwy dros 2,100 o adeiladau rhestredig. Mae’r rhan fwyaf o adeiladau yn rhestredig Gradd II, ond mae’r rhai hynny sydd o bwys cenedlaethol arbennig yn rhestredig Gradd II* neu Radd I. Y sir yw’r pedwerydd mwyaf yng Nghymru o ran nifer ei hadeiladau rhestredig.

Mae gan bedair prif dref y sir gyfoeth o adeiladau brodorol a chlasurol. Mae yna hefyd nifer o blastai gwledig, ynghyd â ffermdai sylweddol ac adeiladau amaethyddol cysylltiedig.

Gall adeilad gael ei restru ar sail oedran, prinder, teilyngdod pensaernïol, a dull adeiladu.

Mae rhestru adeiladau yn sicrhau y bydd diddordeb pensaernïol a hanesyddol yn cael eu hystyried yn ofalus cyn i newidiadau (i’r tu mewn neu’r tu allan) gael eu cytuno. Er y gall disgrifiadau’r rhestr nodi nodweddion unigol o ddiddordeb, nid yw hyn o bell ffordd yn rhestr derfynol.

Ar ôl rhestru, mae manylion pob adeilad rhestredig yn cael eu hanfon ymlaen i’r awdurdod ar ffurf papur gan Cadw. Ein cyfrifoldeb ni wedyn yw sicrhau bod perchnogion yr adeiladau yn cael eu hysbysu.

Os oes gennych ymholiad yngl?n ag adeilad, cysylltwch â’r tîm cadwraeth ar 01633 644880 neu drwy e-bost: conservation@monmouthshire.gov.uk

Mae cronfa ddata genedlaethol, sydd wedi’i chynllunio a’i datblygu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cadw, yr Amgueddfa Genedlaethol, a’r pedair ymddiriedolaeth archeolegol yng Nghymru, wedi gwneud manylion pob adeilad rhestredig ar gael yn ganolog.

Darperir canllawiau cyffredinol yn llyfryn ‘Beth yw Rhestru?’ Cadw.

Rhestr o adeiladau mewn perygl

Mae’r rhestr o adeiladau mewn perygl yn cynnwys pob adeilad rhestredig yn y sir, ac eithrio’r rhai sydd yn y Parc Cenedlaethol.

Mae cofnod ar gyfer pob adeilad yn dadansoddi ei gyflwr ac yn ei sgorio yn unol â hynny. Caiff adeiladau eu sgorio o 1 i 6, gyda disgrifiadau o’u cyflwr yn amrywio o ‘nid mewn perygl’, i ‘i gael ei fonitro’, ac ‘mewn perygl’.

Caiff y gronfa ddata ei defnyddio bob dydd gan y tîm cadwraeth i nodi adeiladau mewn cyflwr sydd arbennig o wael ac i annog perchnogion i gymryd camau i’w gwella. Lle bo angen, gellir cymryd camau ffurfiol, er bod hyn bob amser yn ddewis olaf. Gellir rhoi cymorth i gyfeirio berchnogion tuag at ffynonellau cyllid posibl.

Ni chyhoeddir y gronfa ddata yma am nifer o resymau.

  • Mae diffyg adnoddau i gyhoeddi’r rhestr mewn fformat sy’n hawdd ei gyrchu ar y rhyngrwyd
  • Mae’r rhestr yn newid gyda threigl amser, ac mae lefel y risg i adeiladau yn newid pan fo gwaith yn cael ei wneud. Gan fod gwaith yn cael ei wneud o ddydd i ddydd ar draws y sir, ni allwn gadw i fyny gyda newidiadau i’r gronfa ddata
  • O ystyried y ffactorau uchod, ni fyddai’r cyngor yn dymuno cyhoeddi cofnodion anghywir neu sydd wedi’u dyddio.

Gellir gwneud trefniadau i archwilio copi caled y gronfa ddata adeiladau mewn perygl a gynhyrchwyd yn 2005. Os ydych am wneud apwyntiad, ffoniwch y tîm cadwraeth ar: 01633 644880.

Os oes gennych ymholiadau penodol ynghylch unrhyw adeilad rhestredig, dylai’r rhain gael eu cyfeirio at:conservation@monmouthshire.gov.uk

Ardaloedd cadwraeth

Ar hyn o bryd, mae 31 o ardaloedd cadwraeth yn Sir Fynwy. Mae rhai ohonynt yn cynnwys bron y cyfan o ganolau trefi mawr, tra bo eraill yn ddynodiadau mwy penodol i ddiogelu clystyrau bach o adeiladau fel canolau pentrefi.

O fewn yr ardaloedd hyn, mae’n rhaid cael Caniatâd Ardal Gadwraeth ar gyfer gwaith dymchwel sylweddol, hyd yn oed pan nad yw’r adeilad wedi’i restru. Nid yw caniatâd yn angenrheidiol ar gyfer adeiladau sydd â chyfaint o lai na 115 metr ciwbig.

Lle bo ceisiadau cynllunio yn ofynnol, bydd cryn angen am gydnabod cymeriad yr ardal gadwraeth. Er enghraifft, bydd mwy o arfer rheolaeth wrth ddylunio estyniadau ac adeiladau newydd nag sy’n arferol.

Dylai dyluniadau newydd barchu cymeriad yr adeiladau cyfagos. Yn y mwyafrif o achosion, anogir adeiladau traddodiadol mewn ffurf. Os cynigir dyluniad modern, mae angen iddo fod o’r ansawdd uchaf. Fel rheol, dylid defnyddio deunyddiau adeiladu traddodiadol sy’n parchu’r cymeriad lleol. Er enghraifft, bydd llechi naturiol a theils clai yn cael eu ffafrio. Anaml y bydd deunyddiau adeiladu plastig fel UPVC yn dderbyniol.

Mae’r rhan fwyaf o’r 31 o ddynodiadau ardal gadwraeth yn dyddio’n ôl i gyfnod yr hen Gyngor Dosbarth Trefynwy. Nid oedd yr un o’r dynodiadau hyn yn gysylltiedig â’r math o arfarniad sy’n cael ei ystyried yn ddymunol bellach er mwyn diffinio cymeriad arbennig yr ardaloedd hyn.

Ym mis Ebrill 2005, mabwysiadodd y cyngor Gynllun Datblygu Unedol ar gyfer y blynyddoedd 1996 i 2011. Mae polisïau ynglŷn ag ardaloedd cadwraeth yn cael eu nodi ym Mhennod 10 – yn benodol, polisïau CH1, CH2, CH3, CH4 a CH5. Mae’r Cynllun Datblygu Unedol (CDU) ar gael i gyfeirio ato ar wefan y cyngor.

Ochr yn ochr â’r polisïau hyn yw canllawiau drafft ac atodol ar gynllunio o’r enw ‘ardaloedd cadwraeth’ a fwriedir eu hadolygu a’u mabwysiadu.

Gellir gweld disgrifiadau byr o bob un o ardaloedd cadwraeth Sir Fynwy yma. Gellir gweld mapiau o’r ardaloedd hyn, sy’n cynnwys eu ffiniau, yn y Cynllun Datblygu Unedig sydd wedi’i fabwysiadu gan Gyngor Sir Fynwy (gweler Pennod 10 – ‘Cadw’r Amgylchedd Hanesyddol’).

Archeoleg

Mae’r Sir Fynwy gyfoes wedi’i chreu i raddau helaeth gan ei gorffennol. Mae’r dirwedd amrywiol yn gynnyrch grymoedd naturiol ac effaith amlwg gweithgarwch dynol yn ystod y 10,000 o flynyddoedd diwethaf.

Nid oes rhan o dirwedd y sir sydd heb ei heffeithio gan weithgarwch dynol y gorffennol, sydd wedi gadael argraff enfawr a gwerthfawr. Mae tomenni claddu a bryngaerau cynhanesyddol, trefi a filâu Rhufeinig, pentrefi anghyfannedd o’r cyfnod canoloesol, a henebion diwydiannol wedi eu gadael gan ein hynafiaid ac maent yn nodweddion tirwedd cyfarwydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau ac amgylcheddau daearyddol. Yn aml, mae llawer o’r safleoedd hyn wedi’u claddu neu sydd bron yn weladwy, ond nid ydynt yn llai pwysig oherwydd hynny. Mae pob un o’r safleoedd hyn yn gronfeydd o wybodaeth am gymdeithasau’r gorffennol, yn gyfyngedig o ran nifer, yn agored i niwed gan ddatblygiad cyfoes, ac yn unigryw.

Yn Sir Fynwy, caiff 191 o safleoedd archeolegol eu gwarchod fel Henebion Cofrestredig. Mae’n dramgwydd troseddol i wneud gwaith iddynt, gan gynnwys gwaith datblygu, heb ganiatâd ysgrifenedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r gweddill o’r 4,905 o safleoedd archeolegol sy’n hysbys, ynghyd â’r rhai nad yw’n gofrestredig ar hyn o bryd, yn cael eu gwarchod gan y broses gynllunio, sy’n rhagdybio o blaid cadw yn eu lle safleoedd archeolegol o bwys cenedlaethol.

Mae pedair ymddiriedolaeth archeolegol yng Nghymru. Yn Sir Fynwy, mae’r Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent yn cynnig cyngor ynglŷn ag unrhyw faterion archeolegol. Mae’n cadw’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol, sy’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â phob safle sy’n hysbys yn Sir Fynwy. Mae hefyd yn darparu Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol i’r cyngor a’r cyhoedd yn gyffredinol. Cyn cyflwyno cais cynllunio i’r cyngor, dylech gysylltu ag Ymddiredolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent i drafod eich cais a’i effaith archeolegol debygol.

Er mwyn cynorthwyo’r rhai sy’n cynllunio datblygiad mewn ardaloedd lle mae adnodd archeolegol hysbys, neu lle mae’n debygol y gall olion fod yn sensitif i bwysau datblygu, mae 13 ardal archeolegol sensitif wedi eu nodi yn Sir Fynwy.

Maent yn cynrychioli’r ardaloedd mwyaf tebygol o beri bryder wrth benderfynu ar gais cynllunio, oherwydd yr effaith y gall datblygiad ei chael ar yr adnodd archeolegol. Fodd bynnag, mae safleoedd archeolegol eraill yn bresennol y tu allan i’r ardaloedd dynodedig, ac ni ddylid dehongli bod nodweddion archeolegol y tu allan i’r ardaloedd archeolegol sensitif yn llai pwysig na’r rhai y tu mewn iddynt.

Gellir cael manylion pellach am le archeoleg yn y broses gynllunio ar wefan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent neu drwy gysylltu â’i Hadran Cynllunio Archeolegol ar 01792 655208 neu:planning@ggat.org.uk

Henebion cofrestredig

Caiff safleoedd archeolegol a henebion o bwys cenedlaethol eu diogelu gan Lywodraeth Cymru trwy Cadw. Mae henebion cofrestredig yn cynnwys ystod eang o fathau o safleoedd, o ogofâu cynhanesyddol i olion amddiffynfeydd milwrol yr ugeinfed ganrif. Olion claddedig yw’r rhan fwyaf o henebion, fel aneddiadau, amddiffynfeydd, safleoedd angladdol neu safleoedd gwledig. Fodd bynnag, gall adeiladau fod yn gofrestredig hefyd, er bod y rhain fel arfer yn adfeiliedig ac yn annhebyg o gael eu hailddefnyddio.

Mae 191 o henebion cofrestredig yn y sir, gan gynnwys safleoedd eiconig fel:

  • Meini Harold, tri maen hir cynhanesyddol yn Nhryleg
  • Adfeilion dinas Rufeinig Caer-went
  • Cestyll canoloesol mawr yn Rhaglan a Chas-gwent

Mae’r rhan fwyaf o henebion cofrestredig yn llai adnabyddus, ond maent yn dal i gynrychioli’r safleoedd archeolegol a strwythurau hanesyddol pwysicaf yn y wlad.

Mae’n dramgwydd troseddol i ddifrodi heneb gofrestredig neu i wneud gwaith datblygu o fewn ei hardal warchodedig heb ganiatâd Llywodraeth Cymru (trwy Cadw) ymlaen llaw. Mae’n rhaid cael y caniatâd hwn, a elwir yn ganiatâd heneb gofrestredig, yn ogystal ag unrhyw ganiatâd cynllunio gan y cyngor. Gellir cael manylion pellach ynghylch goblygiadau cofrestru henebion, caniatâd heneb gofrestredig, a grantiau cadwraeth trwy ymweld â gwefan Cadw neu drwy ffonio 01443 336000.

Mae polisïau cynllunio cenedlaethol, a pholisïau Cyngor Sir Fynwy, yn ceisio gwarchod henebion cofrestredig a’u gosodiadau gweledol. Os ydych yn cynllunio datblygiad a allai effeithio ar safle cofrestredig, dylech ofyn am gyngor gan Cadw cyn gynted ag y bo modd.

Parciau a gerddi

Cofrestr Cadw/ICOMOS (Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleodd) o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru:

Mae gan Sir Fynwy dreftadaeth gyfoethog o barciau a gerddi hanesyddol. Maent yn rhan bwysig ac annatod o adeiledd hanesyddol a diwylliannol y sir.

Cynhwyswyd parciau a gerddi o bwys cenedlaethol ar Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Lluniwyd y gofrestr er mwyn helpu perchenogion, awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr, cyrff statudol a phawb sy’n ymwneud â hwy i ddiogelu parciau a gerddi hanesyddol yn seiliedig ar wybodaeth. Mae’n ddynodiad anstatudol. Mae safleoedd yn rhestredig Gradd I, II* a II yn yr un ffordd ag adeiladau rhestredig.

Diogelu a chynllunio:

Wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, mae’r effaith bosibl ar y parc neu ardd yn ystyriaeth faterol. Y nod yw atal nodweddion pwysig y safleoedd rhag cael eu difrodi, megis cynllun hanesyddol, strwythur, nodweddion adeiledig ac elfennau a blannwyd. Ni fwriedir diogelu popeth fel y mae – mewn gwirionedd, mewn llawer o achosion nid yw gwaith datblygu yn cael effaith andwyol ac mae’n fuddiol. Fodd bynnag, mae’n bwysig peidio â gadael i waith datblygu ansensitif amharu ar gymeriad hanesyddol a gweledol parciau a gerddi hanesyddol ac mae ymgynghori ar geisiadau cynllunio yn angenrheidiol ac yn helpu i atal hyn rhag digwydd. Nid yw rheoliadau presennol yngl?n â chynllunio ac adeiladau rhestredig yn cael eu heffeithio gan y gofrestr, ond mae system ymgynghori statudol ar waith o ran pob cais cynllunio sy’n effeithio ar barciau a gerddi ar y gofrestr. Bydd pob cais yn cael ei gyfeirio at y Gymdeithas Hanes Gerddi a bydd y rhai sy’n effeithio ar barciau a gerddi Gradd I a II* hefyd yn cael eu cyfeirio at Cadw. Bydd rhaid rhoi sylw dyledus wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio i ddiogelu cymeriad a lleoliadau gerddi cofrestredig. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch parciau a gerddi hanesyddol at:

Yr Arolygydd Parciau a Gerddi Hanesyddol
Cadw
Plas Carew
Uned 5/7 Cefn Coed
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QQ