Skip to Main Content

Economi lleol

Gallai fod ymyrraeth sylweddol yn economi Cymru pe byddai Brexit heb gytundeb, er enghraifft fel canlyniad i oedi nwyddau mewn porthladdoedd a rhwystrau tariff uwch.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu cyllid sylweddol ar gyfer addasiadau Brexit i fusnesau. Fodd bynnag, os ydych yn berchen busnes yn Sir Fynwy neu’n gyfrifol am gynllunio ar gyfer Brexit, yna mae porthBrexit Busnes Cymru yn nodi’r camau y dylech eu cymryd i baratoi’r busnes ar gyfer effaith bosibl canlyniad dim cytundeb. Mae hefyd yn rhoi manylion cyswllt ar gyfer gwasanaethau cymorth a chyngor, sy’n barod i helpu.

Mae cyllid newydd gan y llywodraeth ar gael i helpu busnesau i hyfforddi staff i wneud datganiadau tollau ac i helpu busnesau sy’n cefnogi eraill i fasnachu nwyddau i fuddsoddi mewn technoleg gwybodaeth.

Gall busnesau sy’n seiliedig yn y Deyrnas Unedig, neu gyda changen yn y Deyrnas Unedig, wneud cais am gyllid cyn i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Gellir defnyddio grantiau i gefnogi:

Costau hyfforddiant ar gyfer busnesau sy’n cwblhau datganiadau tollau neu sy’n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol.

Siambr Fasnach De Cymru – Digwyddiad Paratoi ar gyfer Brexit

Dydd Llun 28 Hydref 10.00am i 12.30pm a 14.00pm i 16.30pm yng Ngwesty’r Marriott, Abertawe. Nifer gyfyngedig o leoedd. Hanfodol archebu ymlaen llaw.

Dydd Mawrth 29 Hydref 10.00am – 12.30pm a 14.00pm -16.30

Sesiynau TAW gan yr arbenigwyr Centurion

Ar gyfer y ddau sesiwn – info@southwaleschamber.co.uk neu ffôn 01633 254041