Mae’r cynllun budd-dal tai yn cael ei redeg gan gynghorau lleol ar ran y llywodraeth.
Mae budd-dal tai yn fudd-dal i bobl ar incwm isel i’w helpu i dalu eu rhent. Gallwch fod yn gymwys i gael budd-dal tai os ydych yn derbyn budd-daliadau, yn gweithio’n rhan-amser, neu yn gweithio’n amser llawn ar gyflog isel.
I gael budd-dal tai, rhaid i chi dalu rhent i’r cyngor, i landlord cymdeithasol cofrestredig neu i landlord preifat. Gallwch hefyd hawlio budd-dal tai os ydych yn gyd-denant, yn rhentu ystafell mewn hostel, neu yn lletywr.
Fel arfer, ni allwch gael budd-dal tai os bydd un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
- Mae gennych gynilion o dros £16,000
- Rydych yn byw yng nghartref perthynas agos
- Rydych yn fyfyriwr amser llawn (oni bai eich bod yn anabl, bod gennych blant, neu fod gennych bartner nad yw’n fyfyriwr)
- Rydych yn geisydd lloches neu’n cael eich noddi i fod yn y DU
Budd-daliadau tai ar gyfer tenantiaid preifat
Os ydych yn rhentu eiddo neu ystafell gan landlord preifat, mae Lwfans Tai Lleol yn cael ei ddefnyddio i weithio allan faint o fudd-dal tai y derbyniwch chi.
Mae’n seiliedig ar lefelau rhent ar gyfer yr ardal lle rydych yn byw a’r nifer o bobl sy’n byw gyda chi. Mae cyfraddau Lwfans Tai Lleol yn cael eu pennu gan Wasanaeth y Swyddogion Rhenti Cymru (rhan o Is-adran Dai Llywodraeth Cymru). Mae’r gwasanaeth hwn yn hollol annibynnol o Gyngor Sir Fynwy.
Faint o arian gewch chi?
Bydd eich budd-dal tai yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol.
Mae Lwfans Tai Lleol yn berthnasol i hawlwyr sy’n rhentu gan landlord preifat.
Ni fydd yn berthnasol i chi:
- os ydych yn denant i gymdeithas tai
- os oes gennych denantiaeth a ddechreuodd cyn 1989
- os ydych yn byw mewn carafán, cartref symudol, hostel neu d? cwch
- os yw’r swyddog rhenti wedi penderfynu mai ar gyfer prydau bwyd yw rhan sylweddol o’ch rhent
Os ydych wedi bod yn cael budd-dal tai ers cyn 7 April 2008, ni fydd Lwfans Tai Lleol yn berthnasol i chi oni bai eich bod yn newid eich cyfeiriad neu’n cael toriad yn eich hawliad.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael:
- Taflen Lwfans Tai Lleol ar gyfer hawlwyr
- Taflen Lwfans Tai Lleol ar gyfer landlordiaid
- Cyfraddau Lwfans Tai Lleol
- Lwfans Tai Lleol: rhannu gwybodaeth gyda’ch landlord
- Newidiadau mewn budd-dal tai ar gyfer tenantiaid preifat rhwng 25 a 35 oed
- Cyfraddau Lwfans Tai Lleol a chyfrifydd ystafell