Skip to Main Content

Mae’r cynllun budd-dal tai yn cael ei redeg gan gynghorau lleol ar ran y llywodraeth.

Mae budd-dal tai yn fudd-dal i bobl ar incwm isel i’w helpu i dalu eu rhent. Gallwch fod yn gymwys i gael budd-dal tai os ydych yn derbyn budd-daliadau, yn gweithio’n rhan-amser, neu yn gweithio’n amser llawn ar gyflog isel.

I gael budd-dal tai, rhaid i chi dalu rhent i’r cyngor, i landlord cymdeithasol cofrestredig neu i landlord preifat. Gallwch hefyd hawlio budd-dal tai os ydych yn gyd-denant, yn rhentu ystafell mewn hostel, neu yn lletywr.

Fel arfer, ni allwch gael budd-dal tai os bydd un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • Mae gennych gynilion o dros £16,000
  • Rydych yn byw yng nghartref perthynas agos
  • Rydych yn fyfyriwr amser llawn (oni bai eich bod yn anabl, bod gennych blant, neu fod gennych bartner nad yw’n fyfyriwr)
  • Rydych yn geisydd lloches neu’n cael eich noddi i fod yn y DU

Budd-daliadau tai ar gyfer tenantiaid preifat

Os ydych yn rhentu eiddo neu ystafell gan landlord preifat, mae Lwfans Tai Lleol yn cael ei ddefnyddio i weithio allan faint o fudd-dal tai y derbyniwch chi.

Mae’n seiliedig ar lefelau rhent ar gyfer yr ardal lle rydych yn byw a’r nifer o bobl sy’n byw gyda chi. Mae cyfraddau Lwfans Tai Lleol yn cael eu pennu gan Wasanaeth y Swyddogion Rhenti Cymru (rhan o Is-adran Dai Llywodraeth Cymru). Mae’r gwasanaeth hwn yn hollol annibynnol o Gyngor Sir Fynwy.

Faint o arian gewch chi?

Bydd eich budd-dal tai yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol.

Mae Lwfans Tai Lleol yn berthnasol i hawlwyr sy’n rhentu gan landlord preifat.

Ni fydd yn berthnasol i chi:

  • os ydych yn denant i gymdeithas tai
  • os oes gennych denantiaeth a ddechreuodd cyn 1989
  • os ydych yn byw mewn carafán, cartref symudol, hostel neu d? cwch
  • os yw’r swyddog rhenti wedi penderfynu mai ar gyfer prydau bwyd yw rhan sylweddol o’ch rhent

Os ydych wedi bod yn cael budd-dal tai ers cyn 7 April 2008, ni fydd Lwfans Tai Lleol yn berthnasol i chi oni bai eich bod yn newid eich cyfeiriad neu’n cael toriad yn eich hawliad.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael:

  • Taflen Lwfans Tai Lleol ar gyfer hawlwyr
  • Taflen Lwfans Tai Lleol ar gyfer landlordiaid
  • Cyfraddau Lwfans Tai Lleol
  • Lwfans Tai Lleol: rhannu gwybodaeth gyda’ch landlord
  • Newidiadau mewn budd-dal tai ar gyfer tenantiaid preifat rhwng 25 a 35 oed
  • Cyfraddau Lwfans Tai Lleol a chyfrifydd ystafell