Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn i gyhoeddi y bydd gwaith yn cychwyn yn fuan ar Brosiect Adfywio Canol Tref Cil-y-coed a’i fod wedi datblygu Dogfen Fframwaith Prosiect Strategol sy’n amlinellu’r prosiect yn fanylach.
Caiff Prosiect Adfywio Canol Tref Cil-y-coed ei gyllido gan Gyngor Sir Fynwy a Llywodraeth Cymru sydd wedi dyrannu £44 miliwn ar draws y De Ddwyrain drwy ei rhaglen Buddsoddiad Adfywio Targedig. Nod y rhaglen yw cefnogi adfywio economaidd a chefnogi datblygu cynaliadwy ehangach. Dewiswyd Tref Cil-y-coed fel Prif Gynllun Adfywio Economaidd Sir Fynwy a’i gynnwys yng nghyflwyniad y Cyngor Sir sy’n ffurfio rhan o Gynllun Adfywio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae’r prosiectau strategol yn cynnwys:
· Gofod Traws Gyrchfan;
· Hyb Cymunedol Cil-y-coed;
· Cronfa Gwella Eiddo Canol Tref;
· Adnewyddu Rhodfa Manwerthu; a
· Chynllun Byw Trefol/Buarth Jubilee Way
Fel rhan o’r ymgynghoriad, mae Cyngor Sir Fynwy yn awyddus i deall barn perchnogion busnes Tref Cil-y-coed a defnyddwyr Canol y Dref. Os hoffech gyfrannu eich sylwadau, byddem yn ddiolchgar am eich help drwy lenwi’r arolygon dilynol:
I gael mwy o wybodaeth am y Cynllun cysylltwch Sadie Beer, eich Swyddog Ymgysylltu Prosiect Canol Tref – Sadiebeer@monmouthshire.gov.uk