Skip to Main Content

Craffu Effeithlon…..A yw craffu effeithlon yn edrych fel hyn?  



Nid yw Craffu da yn wyddor roced, ond gall hyd yn oed baratoadau trylwyr arwain at ganlyniad annymunol yn y cyfarfod. Pam? Oherwydd y gall craffu fod yn weithgaredd anodd ei ragweld ac mae graddau y gallwn ragweld ‘amrywion anodd eu rhagweld’. Mae sirhau cyfarfodydd craffu effeithlon yn golgyu fod angen i ni ragweld ‘amrywion na fedrur eu rhagweld’ a’u trin orau ag y gallwn neu ar ddiwnod y cyfarfod.

Cyngor ymarferol ar gyfer Craffwyr…

Paratoi!

  • Beth yw’r canlyniad a ddymunir?
  •  Sut i sicrhau’r canlyniad a ddymunir?
  • Beth yw’r ‘amrywion anodd eu rhagweld’ a sut fyddwn ni yn eu trin?

Gweithredu!

  • Deall y sefyllfa yn iawn, cael cyngor cytbwys …
  • Gwerthuso goblygiadau gwahanol lwybrau gweithredu – troi i’r dde, troi i’r chwith, a hyd yn oed dro pedol!
  • Ymrwymo i ddatrysiad mae’r pwyllgor yn fodlon gydag ef ac y gall cyfiawnhau

Hunan-werthuso!

  • Pa mor llwyddiannus oeddem ni fel swyddogaeth craffu – wnaethon ni gyflawni ein canlyniad?
  • Beth oedd o’i le a pham … a oes unrhyw beth i’w achub?
  • Sut y gallwn wella ein perfformiad?

Mae’n bwysig cynllunio cyn cyfarfodydd oherwydd mae paratoi yn ein galluogi i ragweld sut y gallwn drin ‘amrywion anodd eu rhagweld’. Mae sut y gweithredwn ar y dydd yn hollbwsig. Mae angen i aelodau deimlo’n fodlon y cafodd yr holl opsiynau eu dadansoddi cyn ymrwymo i lwybr gweithredu. Er bod hunan-werthuso wedi cynyddu mewn poblogrwydd, anaml mae craffwyr yn neilltuo amser digonol i’w wneud. Fodd bynnag, os ydym o ddifrif am graffu llwyddiannus, mae angen i ni ddeall lle gwnaethom gamgymeriadwu er mwyn eu hunioni … ac mae angen i ni fanteisio ar unrhyw gyfle i’n helpu i wella – p’un ai yw hynny drwy hyfforddi neu arsylwi cymheiriad. Ac yna mae ymarfer!

Hazel Ilett, Rheolwr Craffu