Skip to Main Content

Mae’n rhaid i ni gynnig llety argyfwng i ymgeiswyr digartref os oes gennym reswm i gredu bod ganddynt flaenoriaeth. Unwaith y bydd pob ymdrech wedi’i wneud i atal eich digartrefedd ac na allwch fyw yn eich cartref presennol mwyach, efallai y bydd eich Swyddog Atal Digartrefedd yn cynnig llety dros dro i chi am gyfnod byr ac yn parhau i’ch helpu i leihau eich digartrefedd. Gallai’r llety hwn fod yn:

· Uned llety â chefnogaeth

· Hostel

· Gwely a brecwast

· Eiddo gosod preifat dros dro

· Llety heb ddodrefn dros dro

· Lloches

Yn ystod eich cyfnod mewn llety dros dro, bydd swyddog yn cadw cysylltiad agos â chi i sicrhau fod y rhent yn cael ei dalu a’ch bod yn cadw at amodau’r ddeiliadaeth. Byddant hefyd yn eich cynorthwyo i symud ymlaen drwy eich cynghori ar gyfleoedd tai pellach. Wrth drefnu llety dros dro byddwn yn ceisio sicrhau bod unrhyw lety dros dro a gynigir yn yr ardal hon, fodd bynnag, ni allwn warantu hyn. Byddwn yn ceisio osgoi defnyddio llety gwely a brecwast lle bo hynny’n bosibl.

Rhif ffôn:· Cyfeiriad E-bost: housingoptions@monmouthshire.gov.uk

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Iau 8.45 – 5.00pm, Dydd Gwener 8.45 – 4.30pm

Rhif argyfwng tu allan i oriau: 01633 644 644