Skip to Main Content

Os nad yw rhieni’n rhoi gwybod i’r ysgol ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb, yna bydd pob ysgol yn rhoi eu proses diwrnod cyntaf ar waith yn dilyn absenoldeb disgybl. Gallai hyn gynnwys cyswllt dros y ffôn neu wahodd rhieni i’r ysgol am gyfarfod.

Mae gan bob ysgol Swyddog Lles Addysg sydd mewn cyswllt â’r ysgol ac sy’n ymweld yn rheolaidd i gwrdd â’r Penaethiaid neu staff dynodedig.

Pan mae ysgol wedi defnyddio eu prosesau mewnol i gyd ac wedi cyfeirio achos at Swyddog Lles Addysg yr ysgol, cynhelir trafodaethau rhwng staff dynodedig yr ysgol a’r Swyddog Lles Addysg perthnasol. Bydd unrhyw broblemau neu anawsterau sy’n effeithio ar bresenoldeb y plentyn yn yr ysgol a pha ymagweddau sydd wedi cael eu rhoi ar waith gan yr ysgol i geisio datrys y materion hyn yn cael eu trafod, a bydd cynllun gweithredu ac yn cael ei datblygu a’i adolygu.

Yna bydd Swyddog Lles Addysg yr ysgol yn trefnu i gwrdd â’r rhieni a’r plentyn/plant i esbonio cyfrifoldebau cyfreithiol a phwysigrwydd mynychu’r ysgol yn rheolaidd.

Bydd y Swyddog Lles Addysg yn gweithio gyda’r ysgol, rhieni a’r plentyn/plant i’w cefnogi i fodloni eu cyfrifoldebau. Bydd cyngor a chefnogaeth yn cael eu cynnig a bydd gwybodaeth am wasanaethau cefnogaeth arall yn cael ei darparu os yw’n briodol. Yn y mwyafrif o achosion, bydd cynllun tymor byr ac ymyrraeth gan y Swyddog Lles Addysg a’r ysgol yn arwain at welliant ym mhresenoldeb y plentyn yn yr ysgol.

Fel rhiant, rydych yn cyflawni trosedd os nad ydych yn sicrhau bod eich plentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd, hyd yn oed os ydynt yn colli’r ysgol heb i chi wybod (chwarae triwant).

Os, yn dilyn y gwaith a gynlluniwyd, bod absenoldebau anawdurdodedig yn dal yn bryder, mae dyletswydd ar y Gwasanaethau Lles Addysg i ystyried camau cyfreithiol. Gellir erlyn rhieni yn y llys ynadon a’u dirwyo i fyny at £2,000 fesul trosedd a/neu dderbyn dedfryd o hyd at dri mis yn y carchar.

Mae’r Awdurdod Lleol hefyd yn gallu gofyn am Orchymyn Rhianta.

Gall yr Awdurdod Lleol ymgeisio am Orchymyn Goruchwylio Addysg (ESO) yn ychwanegol at, neu’n hytrach nag, erlyniad. Mae Gorchymyn Goruchwylio Addysg yn cael ei glywed gerbron y Llys Achosion Teuluol ac yn gwneud y cyngor yn gyfrifol am gynghori, cefnogi a rhoi cyfarwyddyd i blentyn a’u rhieni er mwyn sicrhau eu bod yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Gellir cyflwyno hwn yn y llys yn unig.

Beth allwch chi ei wneud i helpu’ch plentyn fynychu’n rheolaidd

Dylai rhieni sicrhau bod eu plentyn yn cyrraedd yn yr ysgol yn brydlon bob dydd ar gyfer sesiwn y bore a sesiwn y prynhawn oni bai bod absenoldeb yn anochel. Dylai rhieni sicrhau bod eu plentyn:-

  • Yn mynd â’r offer priodol gyda nhw i’r ysgol
  • Yn gwisgo’r wisg briodol, gan gynnwys yr esgidiau cywir

Dylai rhieni :-

  • Gymryd diddordeb yn addysg eu plentyn
  • Gofyn iddynt am eu diwrnod, canmol ac annog eu cyraeddiadau yn yr ysgol
  • Mynychu cyfarfodydd bugeiliol yn yr ysgol pan ofynnir iddynt a mynychu nosweithiau rhieni hefyd
  • Gwrando ar eu plentyn os ydynt yn gwneud esgus i osgoi mynd i’r ysgol. Efallai byddant yn darganfod bod yna broblem

Peidiwch ag oedi i gysylltu â’r ysgol os ydych yn credu bod yna anhawster a allai fod yn cael effaith ar addysg/lles eich plentyn a’u hamharodrwydd i fynychu.

Beth allwch chi ei wneud i helpu’ch plentyn?

Os ydych yn amau bod eich plentyn yn colli’r ysgol neu’n anhapus yn yr ysgol, dylech gysylltu â’r ysgol fel mater o frys i drafod y sefyllfa.

Os yw’ch plentyn yn sâl neu’n absennol am unrhyw reswm arall, cysylltwch â’r ysgol ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb cyn gynted â phosib ond cyn 9.30am ar yr hwyraf. Dylech hefyd anfon nodyn o esboniad wedi’i lofnodi a’i dyddio ar ddiwrnod cyntaf eich plentyn yn ôl yn yr ysgol.

Cysylltwch â’r ysgol os oes unrhyw amgylchiadau sy’n debygol o arwain at absenoldeb.

Dylai rhieni sicrhau bod ysgol eu plentyn yn cael gwybod yn brydlon am unrhyw newidiadau i rifau cyswllt a newidiadau cyfeiriad. Mae hefyd yn bwysig rhoi gwybod i’r person priodol yn yr ysgol am unrhyw newidiadau i wybodaeth feddygol briodol yn ymwneud â’ch plentyn.