Belle Vitale Wellness
Tyfu Busnes dan Arweiniad Menyw yn Sir Fynwy
O Garej i Stiwdio
Dechreuodd Belle Vitale Wellness, a sefydlwyd gan Dr. Suzanne Haynes, fel menter rhan-amser yn ei garej yn Gilwern. Tyfodd y busnes yn sydyn gan gynnig hyfforddiant personol a gaiff ei lywio gan wyddoniaeth ar gyfer menywod. Agorodd Suzanne stiwdio lawn-amser yn Llanofer (y Fenni) yn 2025, gan ehangu ei gwasanaethau i gynnwys anogaeth cryfder a symudedd, rhaglenni ffordd o fyw a digwyddiadau llesiant.
Cymorth gan Busnes Sir Fynwy
Bu gan Busnes Sir Fynwy rôl allweddol wrth gefnogi twf y busnes. Gwrandodd Owen Williams, Swyddog Cymorth Busnes, ar anghenion Suzanne a’i chyfeirio at gefnogaeth berthnasol, yn cynnwys atgyfeiriad at Busnes Cymru. Agorodd y cysylltiad hwn y drws i fwy o fentoriaeth ac adnoddau.
“Roedd y cyflwyniad i Busnes Cymru yn drobwynt. Fe wnaeth helpu llunio’r busnes i’r hyn yw heddiw.”

Suzanne
Belle Vitale WellnessMae cefnogaeth barhaus drwy ddigwyddiadau rhwydweithio lleol, tebyg i ddigwyddiad Busnes Sir Fynwy Menywod mewn Busnes, wedi helpu’r busnes i aros mewn cysylltiad a thyfu o fewn y gymuned entrepreneuraidd leol.
Cymuned a Thwf yn Sir Fynwy
Bu gan y gymuned leol rôl allweddol yn llwyddiant Belle Vitale, o argymhellion personol i gymorth golygyddol yng nghylchgrawn The Focus. Mae penderfyniad Busnes Sir Fynwy i roi sylw i’r busnes fel astudiaeth achos yn adlewyrchu ei effaith gadarnhaol a chryfder rhwydwaith cymorth busnes Sir Fynwy.
“Mae gwir deimlad o rannu diben ymysg busnesau lleol yma. Mae hynny, ynghyd â chefnogaeth y cyngor, wedi gwneud Sir Fynwy yn lle gwych i adeiladu rhywbeth ystyrlon.”
Suzanne
Belle Vitale Wellness
Mae Belle Vitale Wellness yn un o’r llu o fusnesau bach yn Sir Fynwy sy’n manteisio o rwydwaith lleol cryf a chymorth hygyrch. Mae taith Suzanne yn dangos sut y gall arweiniad cynnar, cysylltiadau cymunedol ac amgylchedd o gydweithio helpu entrepreneuriaid i droi syniad lleol yn fenter barhaus.
I gael mwy o wybodaeth ar Belle Vitale Wellness gallwch gysylltu gyda Suzanne ar Instagram.
Ydych chi’n Ystyried Dechrau neu Dyfu Busnes yn Sir Fynwy?
Yn Busnes Sir Fynwy rydym yma i’ch rhoi ar y cyfeiriad cywir. P’un ai ydych angen helpu i ganfod eich ffordd o gwmpas wasanaethau cymorth busnes, cysylltu gyda chyngor arbenigol neu ganfod y rhwydweithiau lleol cywir, mae ein tîm yma i’ch llywio – rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i gael mynediad i’r dulliau, pobl a’r cyfleoedd a all symud eich busnes ymlaen.
Cwblhewch y ffurflen yma a dywedwch fwy wrthym am y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch>
< Sir Fynwy busnes – Monmouthshire
Mae’r prosiectau hyn [wedi’u hariannu/ariannu’n rhannol] gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.