Athro/Athrawes Cynradd (Cyfnod Mamolaeth)
Rydym yn chwilio am athro deinamig, egnïol ac ymroddedig i weithio fel rhan o’n tîm yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru, Rhaglan.
Os ydych yn athro/athrawes rhagorol, bod gennych y sgiliau i fyfyrio’n gyson ar eich addysgu a’r awydd i gyflawni’r gorau ohonoch chi’ch hun ac ar gyfer eich disgyblion, gan sicrhau bod pob diwrnod yn bwysig, yna hoffem glywed oddi wrthych.
Rhaid i chi fod yn ymrwymedig i’ch datblygiad proffesiynol eich hun ac yn barod i wneud cyfraniad sylweddol i fywyd yr ysgol.
Cyfeirnod Swydd: L30310008
Gradd: Graddfa Gyflog Athrawon
Oriau: Llawn-amser
Lleoliad: Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru, Rhaglan
Dyddiad Cau: 08/05/2024 12:00 pm
Dros dro: Contract dros dro: Cytundeb blwyddyn yn dechrau 1 Medi 2024 – 31 Awst 2025
Gwiriad DBS: Oes