Skip to Main Content

Mae asesiad gofalwr yn rhoi cyfle i chi siarad â gweithiwr gofal cymdeithasol am yr hyn a allai ei wneud i’ch helpu i ofalu, ac am ba gymorth a chefnogaeth sydd ar gael i chi. Nid prawf ar eich gallu i ofalu ydyw, ac nid oes rhaid i chi dalu am yr asesiad.

I wneud cais, gallwch lenwi’r ffurflen gais ar-lein neu ffonio llinell ddyletswydd y gwasanaethau cymdeithasol:

Trefynwy: 01600 773041

Y Fenni: 01873 735885

Cas-gwent neu Gil-y-coed: 01291 635666

Yn ystod yr asesiad, bydd aelod o staff yn cael sgwrs gyfrinachol â chi, os dymunwch. Byddwch yn gallu siarad â nhw am y pethau sy’n anodd i chi ac am sut yr ydych yn ymdopi.

Mae’n debyg y cewch ffurflen cyn cael y cyfweliad y gallwch ei llenwi o flaen llaw, os ydych yn dymuno gwneud hyn.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau ar lefel eich anghenion, efallai y cynigir gwasanaethau i chi. Mae cyfle hefyd i ystyried eich sefyllfa ac i ofyn cwestiynau, os oes gennych rai.

A fydd rhaid i mi dalu?

Nid oes ffi am asesiad gofalwr. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau sy’n cael eu darparu’n uniongyrchol gennym yn rhad ac am ddim.

Os bydd angen gwasanaethau ar y sawl yr ydych chi’n gofalu amdano, bydd yn rhaid iddynt dalu rhan neu’r cyfan o’r gost, gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau ariannol.

I gysylltu â’n tîm gofalwyr, ffoniwch 01633 644567.

Cefnogaeth ar gyfer Gofalwyr Ifanc

Os ydych o dan 18 oed ac yn gofalu am aelod o’r teulu, fel arfer rhiant, brawd neu chwaer sydd ag anabledd, salwch difrifol, afiechyd meddwl neu sydd â phroblemau gyda chamddefnyddio sylweddau, yna rydych yn ofalwr ifanc.

Efallai y byddwch yn darparu gofal trwy wneud tasgau sylfaenol yn y cartref, darparu gofal nyrsio neu roi cefnogaeth emosiynol.
Mae Prosiect Gofalwyr Ifanc Sir Fynwy yn rhan o Groesffyrdd ac yn cefnogi gofalwyr ifanc hyd at 25 oed.
Mae’r Prosiect Gofalwyr Ifanc yn darparu gweithgareddau cymdeithasol, clybiau ieuenctid, cyrsiau hyfforddi ac eiriolaeth ar gyfer gofalwyr ifanc.

Gallwch gysylltu â Gofalwyr Ifanc Sir Fynwy drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt canlynol:

  • Ffôn/Ffacs: 01495 769996
  • E-bost: ycteam@crossroads-se-wales.org.uk
  • Prosiect Gofalwyr Ifanc Sir Fynwy
    Ardal 3
    Fflat G
    Ysbyty’r Sir
    Griffithstown
    Pont-y-pŵl
    NP4 5YA

Cerdyn Argyfwng Gofalwyr Sir Fynwy

Mae’r cerdyn hwn yn eich nodi fel gofalwr os byddwch yn cael damwain neu yn methu dweud pwy ydych.

Mae’n rhoi gwybod i bobl eich bod yn ofalwr a bod rhywun yn dibynnu arnoch i ofalu amdanynt.

Ar gefn y cerdyn, mae lle i chi roi enwau a manylion cyswllt dau o bobl y gellir rhoi gwybod iddynt ac sy’n gallu cymryd camau priodol os oes angen.

  • Gallwch gael y cerdyn yn nerbynfa pob meddygfa yn Sir Fynwy
  • Ffoniwch ein tîm gofalwyr ar 01633 644567 (Llun–Iau)
  • E-bostiwch gais i carers@monmouthshire.gov.uk

Cyngor a Chefnogaeth i Ofalwyr

Mae Prosiect Gofalwyr Sir Fynwy yn grŵp o bobl o’r gwasanaethau cymdeithasol, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, a Chroesffyrdd sy’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi gofalwyr ledled y sir. Ein nodau yw i sicrhau:

  • Eich bod yn gwybod lle i fynd i gael y cymorth sydd ei angen arnoch fel gofalwr
  • Bod gennych gyfle i siarad am y gefnogaeth efallai y bydd ei hangen arnoch
  • Eich bod yn cael cymorth i gael y gefnogaeth honno

Mae nifer o fanteision dros gofrestru gyda Phrosiect Gofalwyr Sir Fynwy. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cylchlythyr rheolaidd am faterion lleol a chenedlaethol sy’n ymwneud â gofalwyr, deddfwriaeth, hyfforddiant a digwyddiadau lleol ar gyfer gofalwyr
  • Gostyngiad i ofalwyr di-dâl o 25% oddi ar holl wasanaethau hamdden Sir Fynwy
  • Cynigion lleol gostyngedig (e.e. diwrnodau hamdden St Pierre)
Cylchlythyr Ionawr

I gofrestru, gallwch e-bostio’r tîm yn uniongyrchol yn carers@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01291 671902.

Cymorthfeydd Gofalwyr

Mae cymorthfeydd gofalwyr, neu sesiynau gwybodaeth, yn gyfle i chi siarad fel gofalwyr yn breifat ac yn gyfrinachol am unrhyw beth sy’n ymwneud â’ch rôl fel gofalwr, ac archwilio’r gefnogaeth a chymorth a allai fod ar gael i chi. Cynhelir y cymorthfeydd hyn mewn practisau meddygon teulu ac mewn ysbytai lleol. Gallwch alw heibio am sgwrs neu e-bostio neu ffonio i drefnu apwyntiad:

Grŵp Strategaeth Gofalwyr Sir Fynwy

Mae Grŵp Strategaeth Gofalwyr Sir Fynwy yn grŵp sy’n cynnwys gofalwyr a chynrychiolwyr o wahanol grwpiau sy’n cefnogi gofalwyr, gan gynnwys yr awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, a mudiadau gwirfoddol lleol a chenedlaethol. Maent yn cyfarfod yn rheolaidd (bob 6 wythnos) ac yn gyfrifol am gynhyrchu a gweithredu Strategaeth Gofalwyr Sir Fynwy. Os hoffech chi fynychu cyfarfod, neu eistedd ar y grŵp fel cynrychiolydd gofalwyr, byddem yn falch iawn o glywed oddi wrthych.

Rhagor o gymorth a chyngor

Mae’r Pecyn Gwybodaeth i Ofalwyr [403kb] yn rhoi manylion am sefydliadau lleol, eich hawliau fel gofalwr a gwybodaeth arall a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Bydd yn cael ei ddiweddaru o leiaf unwaith y flwyddyn.

Mesur Gofalwyr

Mae’r Mesur Gofalwyr yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru sy’n gorfodi byrddau iechyd, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector i weithio gyda’i gilydd i gynhyrchu strategaeth ar gyfer hysbysu gofalwyr.