Skip to Main Content

Asbestos yw enw grŵp o fwynau sy’n digwydd yn naturiol a ddefnyddir mewn rhai cynnyrch, megis deunyddiau adeiladau a brecs cerbydau, i wrthsefyll gwres a chyrydiad. Gall mewnanadlu ffibrau asbestos achosi clefydau difrifol yr ysgyfaint ac organau eraill nad ydynt efallai yn ymddangos am flynyddoedd ar ôl dod i gysylltiad â’r deunydd.

Mae llawer o asbestos yn dal i fodoli mewn llawer o adeiladau. Dylech sicrhau os gwyddoch os a ble mae asbestos yn bresennol; ym mha gyflwr y mae a sut y gall pobl yn cynnwys contractwyr efallai fod yn agored i asbestos e.e. yn ystod gwaith adnewyddu neu gynnal a chadw arferol.

Gallwch yn awr edrych ar wybodaeth am asbestos mewn ysgolion.

Mae Iechyd yr Amgylchedd yn rhoi cyngor ac arweiniad os amheuir fod asbestos o fewn safleoedd masnachol a thai preifat yn Sir Fynwy. Gallwn hefyd gynnig cyngor ar sut i ddileu asbestos a lle i gael gwared ag ef.

Os gweithredwch safle masnachol dylech bob amser asesu’r risg yn deillio o asbestos a’i ddileu neu ei drin os oes angen. Dylech bob amser wirio gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch os ydych angen contractwr gyda thrwydded i symud neu drin asbestos. Dylid gofalu am unrhyw asbestos sydd ar ôl i sicrhau na chafodd ei ddifrodi er mwyn atal bod yn agored i ffibrau asbestos. Mae mesurau i drin asbestos yn cynnwys 

asbestos e.e. yn ystod gwaith adnewyddu neu gynnal a chadw arferol.

Gallwch yn awr edrych ar wybodaeth am asbestos mewn ysgolion.

Mae Iechyd yr Amgylchedd yn rhoi cyngor ac arweiniad os amheuir fod asbestos o fewn safleoedd masnachol a thai preifat yn Sir Fynwy. Gallwn hefyd gynnig cyngor ar sut i ddileu asbestos a lle i gael gwared ag ef.

Os gweithredwch safle masnachol dylech bob amser asesu’r risg yn deillio o asbestos a’i ddileu neu ei drin os oes angen. Dylech bob amser wirio gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch os ydych angen contractwr gyda thrwydded i symud neu drin asbestos. Dylid gofalu am unrhyw asbestos sydd ar ôl i sicrhau na chafodd ei ddifrodi er mwyn atal bod yn agored i ffibrau asbestos. Mae mesurau i drin asbestos yn cynnwys cadw cofnod o ble mae’r holl asbestos, ei labelu a gwirio ei gyflwr yn gyson.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar-lein gan yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch.

Eich Sylwadau

Mewngofnodwch i roi eich sylwadau.