Skip to Main Content

Os hoffech ofyn am arwyddion neu farciau ffordd newydd, gellir gwneud hyn drwy anfon cais am wasanaeth gan ddefnyddio Ap Fy Sir Fynwy

Mae arwyddion ffyrdd yn arwyddion a godir wrth ochr neu uwchben ffyrdd er mwyn rhoi cyfarwyddiadau neu ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr y ffordd.

Dim ond pan fo Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT) mewn lle (neu ofyniad rheoliadol tebyg, megis dechrau terfyn cyflymder o 30 mya mewn ardal sydd wedi’i oleuo gan oleuadau stryd) y mae gofyniad statudol i ddarparu arwyddion.

Lle mae angen rhybuddio a hysbysu defnyddwyr y ffordd, bydd angen arwyddion neu farciau hefyd. Dim ond pan fydd angen clir wedi’i nodi y darperir arwyddion, a byddant yn fach iawn ac yn cyd-fynd â’u hamgylchedd. Mae’r egwyddorion hyn yn berthnasol mewn lleoliadau trefol a gwledig. Mae rhagor o wybodaeth am arwyddion ffyrdd ar gael yma: Arwyddion traffig – Rheolau’r Ffordd Fawr – Canllawiau – GOV.UK (www.gov.uk)

Mae marciau ffordd yn cyflawni swyddogaeth bwysig iawn o ran cyfleu gwybodaeth a gofynion i ddefnyddwyr y ffordd, ac efallai na fydd hynny’n bosibl gan ddefnyddio arwyddion ar bolion. Mae ganddynt y fantais y gellir eu gweld yn aml pan fydd arwydd ar bolyn wedi’i guddio, ac yn gallu darparu neges barhaus. Mae cyfyngiadau ar farciau ffyrdd. Gellir eu cuddio’n llwyr gan eira. Mae amhariad ar eu gwelededd pan fyddant yn wlyb neu’n fudr, a chaiff eu bywyd effeithiol ei leihau os ydynt ar ffordd sydd â thraffig trwm.

Serch hynny, mae marciau ffordd yn gwneud cyfraniad hanfodol at ddiogelwch, e.e. drwy ddiffinio’n glir y llwybr sydd i’w ddilyn drwy beryglon, drwy wahanu symudiadau croes a thrwy dangos y llwybr ar ymyl y ffordd, ar ffyrdd sydd heb eu goleuo yn y nos. Gallant hefyd helpu i wella capasiti cyffyrdd, a gwneud y defnydd gorau o’r gofod ffordd sydd ar gael. Mae rhagor o wybodaeth am Farciau Ffyrdd ar gael yma: Marciau ffordd – Rheolau’r Ffordd Fawr – Canllawiau – GOV.UK (www.gov.uk)