Skip to Main Content

Felly beth yw manteision bod yn ddwyieithog

Gallwch fyw eich bywyd mewn dwy (neu fwy) o ieithoedd. Caiff byw yng Nghymru ei gyfoethogi drwy fedru siarad Cymraeg. Ac os ydych eisiau teithio neu eisoes yn siarad ieithoedd eraill adref, mae dysgu iaith arall yn rhwyddach!

Mae cyfleoedd gwaith a gyrfa gwych. Mae siarad dwy iaith yn cynnig mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn ogystal â sgil ychwanegol ar eich C.V.

Mae siarad gyda phobl yn eu dewis iaith yn fantais. Mae’r meysydd gyrfa hyn yn neilltuol o awyddus i gyflogi siaradwyr Cymraeg – y cyfryngau, technoleg gwybodaeth, iechyd, y sector cyhoeddus, chwaraeon a hamdden, manwerthu a’r sector gofal plant ac yn y blaen.

Hwb i’ch ymennydd …

Dengys ymchwil ryngwladol fod plant dwyieithog yn tueddu i gyflawni’n well o fewn y cwricwlwm a gwneud yn well mewn arholiadau. Maent hefyd yn tueddu i weithio’n well dan bwysau.

Sut y caiff y Gymraeg ei dysgu mewn ysgol cyfrwng Cymraeg?

Pan mae plant yn dechrau dysgu Cymraeg, cânt eu trochi yn yr iaith o’r dechrau cyntaf ond mae’r staff yn hyblyg a gallant ddefnyddio Saesneg os oes angen i helpu’r plant.

Cymraeg yw iaith Addysg yn y Cyfnod Sylfaen (meithrin-B2) ac yna bydd plant yn cael gwersi yn Saesneg a defnyddio Saesneg yn eu gwersi ar draws y cwricwlwm.

Mae hwn yn ddull a gaiff ei gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer dysgu ieithoedd