Skip to Main Content

Ysgolion

Nid ydym yn rhagweld unrhyw effaith ar unwaith ar ysgolion fel canlyniad Brexit heb gytundeb ond rydym yn gwneud yn siŵr y caiff unrhyw oblygiadau posibl eu deall ac y gellir trin effeithiau tymor hirach. Mwy o wybodaeth am sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gynnal gwasanaethau lleol.

Ar gyfer rhai grwpiau yn y boblogaeth, plant sy’n dibynnu ar brydau ysgol, pobl oedrannus mewn gofal preswyl, cleifion mewn ysbytai – gallai effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb godi pryderon am gyflenwadau bwyd. Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a chyflenwyr i ddeall cadwyni cyflenwi bwyd yn lleol.

Derbyniodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyllid i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.