Mae gan Gyngor Sir Fynwy ddyletswydd statudol i sicrhau lleoedd ysgol digonol ac addas i blant yn y Sir, ac wrth wneud hynny sicrhau bod adnoddau a chyfleusterau’n cael eu defnyddio’n effeithlon er mwyn darparu’r cyfleoedd addysg y mae ein plant yn eu haeddu.
Fel rhan o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i ymgynghori ag aelodau’r gymuned a rhanddeiliaid priodol wrth ystyried unrhyw gynigion sylweddol ar gyfer trefniadaeth ysgolion.
Ar 17eg Ionawr 2024, cytunodd Cabinet y Cyngor i gychwyn y prosesau ymgynghori statudol gofynnol ar y cynnig canlynol:
- I adleoli Ysgol Gymraeg Y Fenni o’i safle presennol yn St Davids Road, Y Fenni, NP7 6HF, i’r safle a arferai gael ei feddiannu gan Ysgol Gynradd Deri View, a leolir yn Llwynu Lane, Y Fenni, NP7 6AR.
- O ganlyniad i’r adleoli uchod, cynigir cynyddu capasiti Ysgol Gymraeg Y Fenni i ddarparu 420 o leoedd i ddisgyblion ynghyd â 60 lle Meithrin.
Cynhaliwyd prosesau ymgynghori statudol rhwng dydd Llun 29ain Ionawr 2024 a dydd Llun 11eg Mawrth 2024, lle cafodd ymgyngoreion gyfle i ddarllen y Ddogfen Ymgynghori a chyflwyno’u barn ynghylch a ddylai’r cynigion symud ymlaen.
Y Camau Nesaf?
Ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gynhyrchu Adroddiad Ymgynghori sy’n ceisio hysbysu partïon sydd â diddordeb o ganlyniad yr ymgynghoriad drwy’r canlynol:
- Crynhoi pob un o’r materion a godwyd gan ymgynghorwyr.
- Ymateb i’r rhain drwy eglurhad, diwygiadau i’r cynnig, neu wrthod y pryderon gyda rhesymau ategol.
- Nodi barn Estyn (fel y darperir yn ei hymateb i’r ymgynghoriad) o rinweddau cyffredinol y cynnig
Cabinet y Cyngor wedi cyfarfod ar 5ed Mehefin 2024 i ystyried yr adborth a ddarparwyd gan ymgyngoreion yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol. Yn y cyfarfod hwn, cytunodd y Cabinet i
symud ymlaen i gamau nesaf y broses statudol, sef cyhoeddi hysbysiadau statudol ynghylch y cynnig uchod a’i weithredu o’r 1af Medi 2025.
Cyhoeddwyd yr hysbysiadau statudol yn ffurfiol ar dydd Gwener, 21ain Mehefin 2024
ac roeddynt yn caniatáu cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer unrhyw wrthwynebiadau
statudol. Daeth y cyfnod gwrthwynebu i ben ar 19eg Gorffennaf 2024. Mae’n ofynnol
i’r Cyngor lunio Adroddiad Gwrthwynebiad sy’n manylu ar unrhyw wrthwynebiadau
statudol a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod hwn, ynghyd ag ymateb y Cyngor i’r
gwrthwynebiadau hyn. fodd bynnag, dylid nodi na dderbyniwyd unrhyw
wrthwynebiadau statudol.
Wrth benderfynu ar y cynnig, rhoddodd Aelodau’r Cabinet ystyriaeth ofalus i
ffactorau allweddol sy’n ymwneud â chynigion trefniadaeth ysgolion fel y nodir yn y
Cod Trefniadaeth Ysgolion (Tachwedd 2018). Mae crynodeb o’r ystyriaethau a
roddwyd i’r ffactorau hyn i’w gweld isod:
• Fel rhan o’r broses ymgynghori, mae’r Cyngor wedi asesu effaith y cynnig ar
ansawdd a safonau Addysg. Yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad ac wedi
ystyried yr adborth a dderbyniwyd, roedd y Cabinet yn hyderus y bydd effaith
gadarnhaol gyffredinol ar ansawdd a safonau addysg.
• Ni fydd y cynnig yn effeithio ar ansawdd y dysgu yn unrhyw un o’r ysgolion
cyfrwng Saesneg yng nghlwstwr y Fenni; fodd bynnag, i’r rhai sy’n mynychu
Ysgol Gymraeg y Fenni ar hyn o bryd, mae’r cynigion yn debygol o gael effaith
hynod gadarnhaol ar eu haddysg a’u profiadau dysgu wrth iddynt adleoli i
amgylchedd gwell gyda chyfleusterau addysgu a dysgu rhagorol.
Monmouthshire County Council
• Disgwylir i’r adleoli a’r cynnydd cysylltiedig yng nghapasiti Ysgol Gymraeg y
Fenni gael effaith gadarnhaol ar gymuned Y Fenni sy’n dymuno cael eu
haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn rhagweld y bydd cynnydd yn y
dewis i rieni ar gyfer Ysgol Gymraeg y Fenni oherwydd bydd y Cyngor yn
darparu mwy o leoedd cyfrwng Cymraeg mewn amgylchedd addysgu a dysgu
gwell.
• Mae’r cynnig yn dangos ein hymrwymiad i gynyddu nifer y plant sy’n cael
mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac yn cwrdd â’n targedau a
amlinellir yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae hefyd yn
cefnogi strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050 .
• Mae datblygu addysg cyfrwng Cymraeg wedi bod yn flaenoriaeth ganolog i Sir
Fynwy fel yr amlinellwyd yn ein holl Gynlluniau Strategol ac mae’n brif
flaenoriaeth yn y cynllun presennol. Cydnabyddwn fod adleoli’r ysgol yn
darparu’r sylfeini angenrheidiol i alluogi addysg cyfrwng Cymraeg yn y Fenni i
dyfu i allu cynnig mynediad dau ddosbarth (60 lle fesul grŵp blwyddyn), sy’n
rhywbeth na ellid ei gynnig ar eu safle presennol. Mae hyn yn ein rhoi mewn
sefyllfa gref i gyrraedd ein targed o 120 o ddysgwyr derbyn erbyn diwedd y
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg presennol yn 2031.
Mae’r Cyngor yn gyffrous wrth i ni symud ymlaen i weithredu’r cynigion hyn ac mae’n
edrych ymlaen at weithio’n agos iawn gyda’r Corff Llywodraethu, staff a phlant i
sicrhau bod y cyfnod pontio i’r safle newydd mor ddidrafferth â phosibl.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio strategicreview@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau defnyddiol eraill yn ymwneud â’r ymgynghoriad hwn: