Skip to Main Content

I gael help i atal digartrefedd mae angen i chi gysylltu ag Opsiynau Tai Sir Fynwy a fydd yn gofyn cwestiynau i chi ac efallai yn eich gwahodd i gyfarfod gyda nhw i asesu eich anghenion. Byddwn hefyd yn edrych i weld a oes gennych gysylltiad lleol â’r ardal hon. Gall fod cysylltiad lleol:

· Os ydych wedi bod yn Sir Fynwy am 6 o’r 12 mis diwethaf neu 3 o’r 5 mlynedd ddiwethaf

· Os oes gennych deulu agos, er enghraifft, mam, tad, plant sy’n oedolion neu frawd neu chwaer sydd wedi byw yn y sir am y 5 mlynedd ddiwethaf

· Os ydych yn gweithio yn y sir

· Os oes amgylchiadau arbennig, er enghraifft, triniaeth feddygol arbenigol ddim ond ar gael yn Sir Fynwy

· Os ydych yn ffoi rhag camdriniaeth/trais neu fygythiadau o gamdriniaeth/trais a mae’n debygol y bydd y bygythiadau hyn yn arwain at gamdriniaeth.

Os na allwn sefydlu bod gennych gysylltiad lleol gyda’r ardal hon, ond ein bod yn gallu gwneud cysylltiad ag ardal awdurdod lleol arall, yna byddwn yn eich cyfeirio at yr awdurdod lleol hwnnw. Nid oes raid i chi gael cysylltiad lleol i ni eich helpu i atal eich digartrefedd. Os ydych yn gymwys, yn ddigartref ac yn flaenoriaeth o ran angen, byddwn yn ystyried eich cysylltiad lleol os bydd pob ymdrech i atal a lleihau digartrefedd wedi’i wneud neu wedi methu.

Os nad oes gennych gysylltiad ag unrhyw ardal arall yn y Deyrnas Unedig, mae dyletswydd arnom i’ch helpu chi cyn belled eich bod yn bodloni’r meini prawf ar ddigartrefedd.

Rhif ffôn: 01633 644 644 · Cyfeiriad E-bost: housingoptions@monmouthshire.gov.uk

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Iau 8.45 – 5.00pm, Dydd Gwener 8.45 – 4.30pm

Rhif argyfwng tu allan i oriau: 01633 644 644