Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Dalgylch – Yr ardal ddaearyddol sy’n cael ei gwasanaethu gan ysgol, nid yw hyn yn gwarantu lle yn yr ysgol honno.

Cwricwlwm – Mae’r cwricwlwm yn cynnwys yr holl gyfleoedd dysgu y mae’r ysgol yn eu darparu, y mae llawer ohonynt yn digwydd yn yr ystafell ddosbarth o dan reolaeth uniongyrchol yr athro, ynghyd ag amrywiaeth o weithgareddau y tu allan i’r ystafell ddosbarth gan gynnwys ymweliadau addysgol ac astudiaethau maes.

Awdurdod Lleol – Y corff Llywodraeth Leol sy’n gyfrifol am drefnu a chynnal y Gwasanaeth Addysg yn ei ardal. Yn Sir Fynwy, ymgymerir â’r cyfrifoldeb hwn gan y Cyngor Sir a’i gyflenwi drwy’r Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc.

Ysgol a Gynhelir gan Awdurdod Lleol – Ysgol y mae gan Awdurdod Lleol gyfrifoldeb ariannol a gweinyddol amdani.

Ysgol Nas Cynhelir neu Ysgol Annibynnol – Ysgol nad yw’n cael ei hariannu gan yr Awdurdod Lleol.

Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir – Ysgol a sefydlwyd gan gorff gwirfoddol, fel arfer corff eglwys, ac sy’n eiddo i’r corff hwnnw, sy’n cael ei gyllido’n bennaf gan Awdurdod Lleol. Mae’r corff

llywodraethu’n cyflogi’r staff, ac yn rheoli derbyniadau disgyblion ac addysg grefyddol.

Uned Mynediad Ysgolion a Myfyrwyr – Y grŵp o staff sy’n ymdrin â cheisiadau am dderbyn i ysgolion yn Sir Fynwy.

Nifer derbyn – Nifer fwyaf y disgyblion i’w derbyn i grŵp blwyddyn ysgol.

Uned Cludiant Teithwyr – Y grŵp o staff sy’n ymdrin ag asesu hawl a chludiant disgyblion i ysgolion.