Mae mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn bwysig i bob disgybl ac rydym yn annog rhieni/gofalwyr i weithio mewn partneriaeth gyda’r ysgol i sicrhau fod eu plentyn yn brydlon ac yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru. Dangosodd ymchwil fod presenoldeb yn effeithio ar ba mor dda y gwnaiff disgyblion yn yr ysgol. Byddai disgybl gyda phresenoldeb 90% yn golygu eu bod yn colli 19 diwrnod y flwyddyn. Dengys ymchwil y gallai colli 17 diwrnod o addysg gael yr effaith o TGAU un radd yn is. Disgwylir i ddisgyblion fynychu’r ysgol bob dydd os na chânt eu hatal rhag gwneud hynny oherwydd salwch. Un o’r strategaethau a weithredir i gynorthwyo i godi lefel presenoldeb yw Cyswllt Absenoldeb Diwrnod Cyntaf.
Os na all eich plentyn fynychu’r ysgol, mae’n ofynnol i rieni/gwarcheidwaid:
Cysylltu â’r ysgol ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb o fewn 30 munud o ddechrau’r diwrnod ysgol yn esbonio’r rheswm am yr absenoldeb (mae’n arfer da i gysylltu â’r ysgol ar ddyddiau dilynol os yw’ch plentyn yn annhebyg o fedru mynychu).
Os na fydd yr ysgol yn derbyn rheswm dros absenoldeb, bydd yr ysgol yn dilyn ei gweithdrefnau Absenoldeb Diwrnod Cyntaf a gall hyn fod trwy neges destun, galwad ffôn neu drwy dderbyn e-bost. Mae’n bwysig bod rhieni yn ymateb i’r neges hon gan ysgolion. Os nad yw ysgol yn medru derbyn rheswm am absenoldeb, gall yr ysgol gysylltu â’r Gwasanaeth Lles Addysg i gael cymorth gyda hyn a gellir cynnal ymweliad cartref gan Swyddog Lles Addysg.
• Os na allant gysylltu dros y ffôn, gall y rhieni/gwarcheidwaid hefyd e-bostio neu ddefnyddio un o brosesau cyfathrebu rhieni’r ysgol megis Dojo a dylai hyn fod darparu nodyn dilynol yn egluro’r rheswm dros absenoldeb eu plentyn ar ôl i’r plentyn ddychwelyd i’r ysgol.
• I gefnogi eich plentyn a’r ysgol i sicrhau cyfraddau uchel o bresenoldeb, byddem yn gofyn am i apwyntiadau gyda meddyg teulu, deintydd ac yn y blaen gael eu gwneud tu allan i oriau ysgol os yn bosibl.
Mae’n bwysig iawn bod rhieni’n hysbysu ysgolion am y rhesymau dros absenoldeb o’r ysgol. Y Pennaeth fydd yn penderfynu a ddylid awdurdodi absenoldeb ai peidio. Os nad oes rheswm y gellir ei gyfiawnhau a’r absenoldeb yn anawdurdodedig a bod lefel yr absenoldebau anawdurdodedig yn achosi pryder, bydd yr ysgol yn trafod hyn gyda’r Swyddog Lles Addysg a neilltuwyd i’r ysgol a gellir cyfeirio at y Gwasanaeth Lles Addysg am gyngor pellach ac arweiniad, a chymorth wrth weithio gyda theuluoedd i wella presenoldeb yn yr ysgol. Gall hyn hefyd gynnwys camau cyfreithiol posibl.
Mae Swyddogion Lles Addysg Sir Fynwy yn rhoi cefnogaeth i ysgolion, disgyblion a’u rhieni/gofalwyr i annog mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Os oes gennych unrhyw bryderon am bresenoldeb eich plentyn, cysylltwch â’r ysgol yn y lle cyntaf os gwelwch yn dda.
Os ydych angen unrhyw wybodaeth neu gyngor ar faterion presenoldeb, cysylltwch ag ysgol eich plentyn os dymunwch siarad gyda Swyddog Lles Addysg penodol eich ysgol.