Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Beth os oes gan fy mhlentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol?

Cyflwynwyd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o gael un system ar gyfer y gefnogaeth a roddir i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac sy’n derbyn addysg.

Cyhoeddwyd y Cod ADY yn 2021 i gefnogi gweithredu’r Ddeddf newydd. Mae’n rhoi canllawiau statudol clir am y system ADY ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion. Mae’r Cod ADY yn amlinellu dyletswyddau ysgolion pan ddaw’r posibilrwydd y gall plentyn a pherson ifanc fod â ADY i’w sylw. Mae’r Cod ADY yn nodi’r ddyletswydd ar ysgolion a gynhelir i ddynodi Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n gyfrifol am sicrhau y caiff anghenion plant gyda ADY eu diwallu.

Mae’r Ddeddf yn nodi fod gan berson ADY os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Mae’r diffiniad o ADY yn cynnwys dysgwyr y mae eu anhawster dysgu neu anabledd yn deillio o gyflwr meddygol. Fodd bynnag, gallai plant sydd ag angen meddygol nad yw’n effeithio ar eu dysgu gael eu cefnogi drwy Gynllun Gofal Iechyd Unigol.

Mae’n bwysig cydnabod fod plant yn sicrhau cynnydd ar wahanol gyflymder. Bydd eu hysgolion lleol yn llwyddo i ddiwallu anghenion bron yr holl blant gyda ADY yn Sir Fynwy. Mae gan bob ysgol Gydlynydd ADY a Llywodraethwr ADY sydd, gyda phennaeth a staff yr ysgol, yn gyfrifol am sicrhau y caiff anghenion ychwanegol a gwahanol plant gyda ADY eu dynodi a’u diwallu.

Ni fyddai gan blentyn neu berson ifanc ADY os gellid trin eu diffyg cynnydd neu anawsterau drwy addysgu gwahaniaethol, bydd y rhan fwyaf o blant aphobl ifanc angen dull gwahaniaethol mewn rhyw agwedd o’u haddysg ar ryw amser. Nid yw addysgu gwahaniaethol ohono’i hun yn ffurfio darpariaeth ddysgu ychwanegol, sy’n cyfeirio at ddarpariaeth addysgol ychwanegol neu wahanol wedi’i thargedu sy’n mynd tu hwnt i’r hyn sydd ar gael yn yr ystafell ddosbarth fel arfer. Os ydych yn bryderus am gynnydd eich plentyn ac yn credu fod ganddo ADY sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol, siaradwch gydag athro/athrawes eich plentyn neu’r Cydlynydd ADY yn ysgol eich plentyn.

Os tynnir posibilrwydd ADY i sylw ysgol, mae’n rhaid iddynt ystyried a phenderfynu os oes gan blentyn ADY sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol. Mae gan ysgolion 35 diwrnod ysgol i wneud penderfyniad. Os yw canlyniad y broses asesu yn cadarnhau fod gan blentyn ADY sydd angen darparieqath ddysgu ychwanegol, bydd yr ysgol yn paratoi Cynllun Datblygu Unigol. Mae angen i awdurdod lleol Sir Fynwy wneud y penderfyniad dros blant sy’n mynychu lleoliadau nas cynhelir, canolfannau adnoddau arbennig neu sy’n blant sy’n derbyn gofal. Mae gan yr awdurdod lleol gyfnod o 12 wythnos i benderfynu a pharatoi ar gynllun Datblygu Unigol lle cytunir fod ADY.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob ysgol ddarparu cynllunio unigol ychwanegol, adnoddau a chymorth i blant ag ADY. Gall ysgolion yn Sir Fynwy gael cymorth a chyngor gan wasanaethau addysgol arbenigol i blant â namau synhwyraidd, anawsterau cyfathrebu neu anawsterau llythrennedd penodol. Cefnogir ysgolion hefyd gan Seicolegwyr Addysg a’r Tîm Cefnogi Addysg (EST). Gall ysgolion wneud cais am gyngor allgymorth arbenigol a gofyn hefyd am gymorth gan arbenigwyr yn y gwasanaeth iechyd i’w helpu i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc ag ADY.

Beth os na all yr ysgol leol ddiwallu Anghenion Dysgu Ychwanegol fy mhlentyn?

Ar gyfer plant neu bobl ifanc sydd â’r anghenion mwyaf difrifol a chymhleth, efallai y bydd canolfan adnoddau arbenigol (SRB) neu ysgol arbennig yn cael ei hystyried yn fwy priodol. Rhaid i Banel yr Awdurdod Lleol ystyried a chytuno ar blentyn yn mynychu unrhyw leoliad arbenigol.

Lle caiff fy mhlentyn ei (h)addysgu os oes ganddi/ganddo Anghenion Dysgu Ychwanegol?

Mae’r awdurdod lleol yn anelu i gefnogi disgyblion gyda ADY o fewn eu hysgolion prif ffrwd lleol lle bynnag y mae hynny’n bosibl. Os yw rhieni’n gofyn am leoliad ar gyfer eu plentyn mewn ysgol heblaw eu hysgol leol, bydd yr awdurdod lleol yn ceisio cyflawni dewis y rhieni lle bynnag sy’n bosibl.

Fodd bynnag, efallai na all yr awdurdod lleol wneud hynny os yw dewis rhieni yn anghydnaws gydag anghenion eu plentyn, yn groes i addysg effeithlon disgyblion eraill yn y dosbarth/ysgol neu os byddai’r ysgol yn arwain at wariant cyhoeddus afresymol. Yn Sir Fynwy, caiff mwyafrif y disgyblion gyda ADY eu haddysgu yn eu hysgolion lleol gyda phlant eraill o’r un oedran.

Beth os na all anghenion fy mhlentyn gael eu diwallu gan ysgol yn Sir Fynwy?

Ar gyfer yr ychydig iawn o blant na all eu anghenion gael eu diwallu o fewn Sir Fynwy, byddai’r awdurdod lleol yn cyllido lleoedd mewn ysgolion arbennig a gynhelir gan awdurdodau lleol eraill neu mewn ysgolion arbennig annibynnol. Byddai’n rhaid i leoliad mewn ysgol arbennig tu allan i’r sir gael ei gytuno gan banel derbyn yr awdurdod lleol lle mae’r ysgol arbennig.

Beth am gludiant?

Bydd yr Awdurdod yn ariannu cludiant i blant AAA dim ond:

  • i fynd â phlentyn i’w ysgol leol neu’r ysgol addas agosaf os oes ganddo broblemau symudedd mawr, neu
  • os yw plentyn yn mynychu darpariaeth anghenion arbennig (ysgol arbennigneu uned anghenion arbennig) nad yw ynghlwm wrth ei ysgol leol.

Ni fydd cludiant yn cael ei ddarparu i blant ag anghenion addysgol arbennig os yw’r plentyn yn mynychu ysgol oherwydd dewis y rhieni, h.y. ysgol heblaw’r ysgol addas agosaf ym marn yr Awdurdod Lleol.

Ble gallaf gael cyngor am ddarpariaeth ADY?

Gallwch gysylltu â Gweinyddydd y Tîm ADY

Ffôn: 01633-644512 neu edrych ar y dudalen ADY ar wefan Sir Fynwy:

monmouthshire.gov.uk/cy/additional-learning-needs