Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Sut ydw i’n penderfynu i ba ysgol y dylwn anfon fy mhlentyn?

Penderfyniad personol yw hwn. I’ch cefnogi wrth wneud eich dewisiadau, mae’r llyfryn hwn yn cynnwys manylion yr ysgolion yn Sir Fynwy. Mae nosweithiau agored yn ffordd wych o gael gwybod am ysgol yn ogystal ag ymweld â gwefannau’r ysgolion. Un ffordd o weld y rhain yw drwy wefan Sir Fynwy.

Gellir gweld canlyniadau arolygiadau Estyn diweddar o ysgolion yn estyn.llyw.cymru

Os ydw i’n byw yn nalgylch fy hoff ddewis ysgol, a fyddaf yn sicr o gael lle yno?

Nid yw Cyngor Sir Fynwy yn sicrhau lleoedd i’r plant hynny sy’n byw yn nalgylch ysgol, ond mae preswylio yn y dalgylch yn ymddangos yn rhan o’n meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd.

Beth yw’r anawsterau posibl os byddaf yn ymgeisio a mysgol heblaw fy ysgol ddalgylch?

Mae angen i chi ystyried yr anawsterau sy’n bosibl os byddwch yn ymgeisio am ysgol ar wahân i’ch ysgol ddalgylch. Er enghraifft, os bydd eich cais am le mewn ysgol heblaw’r ysgol ddalgylch yn llwyddiannus, ni fyddech yn gymwys am gludiant rhad ac am ddim, hyd yn oed os ydych yn byw dros filltir a hanner i ffwrdd o’r ysgol honno.

Sylwer: Os byddwch yn gwneud cais i ysgol heblaw eich ysgol ddalgylch, ac mai honno hefyd yw eich ysgol agosaf, efallai byddwch yn gymwys am gludiant rhad ac am ddim o dan y meini prawf cymhwyso arferol – gweler yr adran gludiant. Os dymunwch wneud cais am ysgol y tu allan i’ch dalgylch, ystyriwch hefyd roi mwy nag un dewis ar eich cais rhag ofn y bydd eich cais am yr ysgol hon yn aflwyddiannus.

Beth yw ystyr Nifer Derbyn?

Bydd gan bob ysgol ei Nifer Derbyn ei hun. Y Nifer Derbyn yw’r terfyn uchaf ar gyfer derbyniadau i’r grŵp blwyddyn, sy’n galluogi’r ysgol i barhau i fodloni anghenion y disgyblion yn ddigonol gyda’r lle a’r adnoddau sydd ar gael yn yr ysgol. Byddai torri’r Nifer

Derbyn yn rhoi pwysau pellach ar ddarparu addysg effeithiol a defnyddio adnoddau’n effeithlon yn yr ysgol. Mae’r Nifer Derbyn yn deillio’n uniongyrchol o’r ardal mewn ysgol a ddynodir fel mannau addysgu a’r ardaloedd adnodd sydd ar waith i gefnogi’r addysgu. Y canllawiau a ddefnyddir i gyfrif y rhif derbyn yw “Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru”, cylchlythyr rhif 021/2011 Llywodraeth Cymru;

A gaf fi ymgeisio i Sir Fynwy ac Awdurdod Lleol cyfagos ar yr un pryd?

Na chewch, mae angen i chi gael eich ffurflen gan yr Awdurdod rydych yn talu eich treth gyngor iddo. Fodd bynnag, ar y ffurflen hon gallwch nodi dewisiadau ysgol o nifer o Awdurdodau Lleol.

Byddant wedyn yn anfon y cais at yr Awdurdod Lleol perthnasol. Dylai eich Awdurdod Lleol eich cynghori am yr amserlen ar gyfer anfon ceisiadau ymlaen.

Yr unig eithriad i’r uchod yw os yw’r ysgol a ffafriwch wedi’i lleoli o fewn awdurdod lleol Casnewydd. Yn yr achos yma, mae’n rhaid i chi wneud cais yn uniongyrchol i Gyngor Dinas Casnewydd.

Os nad ydw i’n byw yn Sir Fynwy, a all fy nghais gael ei ystyried am le mewn Ysgol yn Sir Fynwy?

Gall, mae ceisiadau am dderbyn disgyblion sy’n byw y tu allan i’r sir yn cael eu hystyried yn gyfartal.

Mae ffurflenni cais ar gael gan yr Awdurdod Lleol rydych yn talu eich treth gyngor iddo. Dylid dychwelyd y ffurflen i’r awdurdod hwnnw wedyn a bydd yn anfon y ffurflen i’r Uned Ysgolion a Derbyn Myfyrwyr. Gall hefyd fod yn briodol anfon llythyr i’r Uned Mynediad Ysgolion a Myfyrwyr i sicrhau ein bod yn ymwybodol o’ch cais am le.

Os byddaf yn ymgeisio am le mewn Ysgol annibynnol, Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir, neu Ysgol y tu allan i’r Sir, a fydd fy nghais am Ysgol yn Sir Fynwy yn cael ei beryglu?

Mae ffurflenni cais yn gwahodd rhieni i fynegi hyd at dri dewis, ac mae’n bwysig cynnwys eich cais i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir neu i Ysgol Annibynnol. Bydd pob dewis yn cael ei ystyried yn gyfartal yn unol â’r meini prawf a ddefnyddir gan yr Awdurdod pan fydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael. Bydd eich dewis cyntaf yn cael ei gynnig os oes modd bodloni un neu ragor o ddewisiadau.

Beth na phetawn i eisiau’r lle erbyn hyn?

Dylech ysgrifennu neu anfon e-bost i gadarnhau hyn. Eto, nodwch enw, dyddiad geni a chyfeiriad y plentyn. Mae angen i chi gadarnhau eich bod yn derbyn unrhyw le a gynigir gan y gallai methu gwneud hynny olygu y caiff y cynnig ei ddileu. Gall metu llewni ffurflen ar amser ostwng eich cyfle o gael eich dewisiadau cyntaf.

Beth petawn i’n colli’r dyddiad cau?

Ymdrinnir yn gyntaf â’r holl geisiadau cyflawn a geir erbyn 5pm ar 31 Hydref 2025 (Uwchradd) a 4pm ar 15 Ionawr 2026 (Cynradd). Ni fydd unrhyw geisiadau sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau hynny a gyrhaeddodd mewn pryd wedi cael eu prosesu. Os byddwch yn methu llenwi ffurflen mewn pryd, efallai y byddwch yn llai tebygol o gael eich dewis cyntaf.

Pam mae angen i mi gyflenwi tystiolaeth ychwanegol i gefnogi fy nghais?

Bydd yr Awdurdod yn cael at ddata’r Dreth Gyngor er mwyn dilysu eich cyfeiriad cartref. Er mwyn i ni gael gwneud hyn, bydd angen i chi ddarparu eich rhif cyfeirnod Treth Gyngor ar y cais. Os ydych chi’n symud tŷ, bydd angen i chi roi tystiolaeth o ran cytundeb Cyfnewid Contractau neu Gytundeb Tenantiaeth tymor hir. Bydd angen i ni gael y dystiolaeth hon cyn y dyddiad cau.