Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Fodd bynnag, mae’r gofynion cyfreithiol yn cadarnhau y gall rhieni ohirio derbyn eu plentyn tan y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 5 oed.
Mae’n oblygiad ar yr Awdurdod Lleol i sicrhau y cedwir unrhyw gynnigo le ysgol ar gyfer rhieni sy’n dymuno i fynediad eu plentyn i ddosbarth Derbyn gael ei ohirio tan yn nes ymlaen yn y flwyddyn academaidd.
Fodd bynnag, ni all rhiant ohirio mynediad tu hwnt i’r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn bump oed na thu hwnt i’r flwyddyn ysgol y gwnaed y cais amdano.
Genedigaethau Tymor yr Haf
Yn achos plentyn a gaiff ei eni yn ystod tymor yr haf, nid oes gofyniad cyfreithiol eu bod yn mynychu’r ysgol tan y tymor yn dilyn eu penblwydd yn bump oed/y mis Medi ar ôl y flwyddyn mynediad arferol ar gyfer plentyn dosbarth Derbyn.
Fodd bynnag mewn amgylchiadau o’r fath bydd yr Awdurdod Lleol yn parhau i sicrhau fod plant yn parhau i ddilyn eu grŵp blwyddyn cronolegol ac felly byddai’r plentyn yn cael ei dderbyn i flwyddyn 1 ac nid y dosbarth Derbyn.
Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd yr Awdurdod Lleol yn caniatau derbyn genedigaeth tymor yr haf i grŵp blwyddyn sydd tu allan i flwyddyn arferol mynediad. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd angen sylfaen tystiolaeth addas (e.e. adroddiad gan Seicolegydd
Addysgol) sy’n awgrymu na all grŵp blwyddyn cronolegol ddiwallu anghenion y plentyn dan sylw yn iawn.