Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Mae’n rhaid i rieni lenwi ffurflen gais er mwyn cael lle ysgol. Mae cyfle i lenwi cais ar-lein neu gellir gwneud cais ar bapur. Ar ôl darllen yr holl wybodaeth sydd ar gael o’r llyfryn hwn ac o ysgolionunigol, gall rhieni nodi pa ysgol yr hoffent weld eu plentyn yn mynd iddi. Gwahoddir rhieni i fynegi hyd at dri dewis (yn ôl blaenoriaeth) rhag ofn y bydd derbyniad i’r ddewis ysgol wedi cael ei wrthod.

Bydd eich dewisiadau’n cael eu hystyried yn gyfartal yn unol â’r meini prawf a ddefnyddir gan yr Awdurdod Lleol pan fydd mwy o geisiadau na’r lleoedd sydd ar gael ac ni fyddant yn seiliedig ar drefn eich rhestr o ddewisiadau. Fodd bynnag, bydd y dewis cyntaf o ysgol yn cael ei gynnig os oes modd bodloni un neu ragor o’rdewisiadau.

Nodwch y bydd cais a wneir i fynd i ysgol annibynnol neu ysgol y tu allan i Sir Fynwy yn cael ei drin fel un o’ch dewisiadau a bydd yn cael ei raddoli yn unol â hynny.

Cyn penderfynu gwneud cais am le mewn ysgol arbennig, mae angen i chi ystyried yn ofalus sut y bydd eich plentyn yn teithio i’r ysgol, gan na fyddwch o reidrwydd yn gymwys i dderbyn cymorth cludiant

Gweler manylion Polisi Cludiant Ysgol y Cyngor.

Gofynnir i chi nodi pan wnewch cais am leoliad ysgol y cewch eich asesu yn awtomatig am gludiant ysgol yr un amser.