Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Os hoffech chi wneud cais am ysgol a gynhelir gan Awdurdod Lleol y tu allan i Sir Fynwy, mae’n rhaid i chi anfon eich ffurflen at Awdurdod Lleol Sir Fynwy. Pan fyddwch yn dychwelyd eich ffurflen inni gan nodi fod eich dewis ysgol y tu allan i’r sir, byddwn yn cysylltu â’r awdurdod perthnasol er mwyn dod i benderfyniad ynglŷn â’ch cais. Mae’n ddoeth nodi ail a thrydydd dewis ar eich ffurflen rhag ofn na ellir cynnig eich dewis ysgol i chi.

Nid yw hyn yn cynnwys ysgolion sydd wedi’u lleoli yng Nghasnewydd, lle bydd angen i chi wneud cais uniongyrchol i Awdurdod Lleol Casnewydd. Cynghorir chi hefyd i wneud cais am le gan nodi y byddai’n well gennych ysgol yn Sir Fynwy rhag ofn i chi fod yn aflwyddiannus yn eich cais i fynychu’r ysgol hon. Ar eich ffurflen gais dylech nodi’n glir eich bod yn chwilio am le mewnysgol annibynnol.

Os ydych yn gwneud cais am ysgol annibynnol mae’n rhaid i chi wneud cais yn uniongyrchol i’r ysgol honno. Cynghorir chi hefyd i wneud cais am le gan nodi dewis ysgol yn Sir Fynwy rhag ofn i chi fod yn aflwyddiannus yn eich cais i fynd i ysgol annibynnol. Yn eich cais dylech gofnodi’n eglur eich bod yn chwilio am le mewn ysgol annibynnol. Nodwch y bydd cais a wneir i fynd i ysgol annibynnol neu ysgol y tu allan i Sir Fynwy yn cael ei drin fel un o’ch dewisiadau a bydd yn cael ei raddoli yn unol â hynny.