Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Mae cyrff llywodraethol ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn Sir Fynwy yn gyfrifol am eu trefniadau derbyn a dyrannu eu hunain.

Os ydych yn gwneud cais am le yn Ysgol Gynradd Gatholig Ein Harglwyddes a Sant Mihangel neu Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, bydd gofyn i chi wneud cais yn uniongyrchol i’r ysgol honno. Yn ogystal, fe’ch cynghorir i gwblhau cais trwy borth Dinasyddion Cyngor Sir Fynwy yn nodi dewisiadau eraill rhag ofn i chi fod yn aflwyddiannus yn eich cais i fynychu’r Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir.

Ar eich cais rhaid i chi gofnodi’n glir eich bod hefyd wedi gwneud cais am le mewn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir. Os ydych yn gwneud cais am Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Archesgob Rowan Williams neu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Magwyr, rhaid i chi gyflwyno’ch cais drwy borth Dinasyddion Cyngor Sir Fynwy. Nid oes unrhyw ofyniad i chi gyflwyno unrhyw gais ychwanegol yn uniongyrchol gyda’r ysgol. Meini prawf Derbyn argyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir.