Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Wrth i’r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno dros y tair blynedd nesaf, bydd cymwysterau allanol newydd yn cael eu datblygu i adlewyrchu’r newidiadau i’r cwricwlwm. Y garfan gyntaf o ddisgyblion i sefyll yr arholiadau newydd oedd y rhai sy’n dechrau Blwyddyn 7 yn 2023.
Cysylltwch â Phennaeth yr ysgol berthnasol os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol am y ddarpariaeth addysgol yn unrhyw un o’n pedair ysgol uwchradd yn Sir Fynwy.
Sut y caiff dysgwyr eu hasesu?
Mae asesu yn rhan bwysig o ddysgu eich plentyn bob dydd. Bydd athrawon yn cefnogi eich plentyn i ddeall sut mae’n dysgu, beth mae’n ei ddysgu, beth mae’n ei wneud yn dda a beth sydd angen iddo ei wneud nesaf.
Mae hyn yn bwysig i gynnwys disgyblion yn eu dysgu er mwyn iddynt allu:
• gweld ble maen nhw yn eu dysgu
• cynllunio eu camau dysgu nesaf
• sylwi ar unrhyw broblemau neu gymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt ac i helpu eu hathro fel eu bod yn gallu:
• deall yr hyn y gall pob disgybl ei wneud
• nodi’r camau nesaf mewn dysgu
• darparu cefnogaeth a her briodol i bob disgybl
Arholiadau allanol
Mae Cyngor Sir Fynwy yn dilyn y cyngor, canllawiau a’r ddeddfwriaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yng nghyswllt mynediad ar gyferarholiadau cyhoeddus.
Medrir cael mwy o wybodaeth ar bolisi ysgolion yn uniongyrchol gan yr ysgol unigol, ynghyd â manylion eu canlyniadau mewn arholiadau cyhoeddus. Mae gan bob disgybl hawl i gael eu cynnig ar gyfer arholiadau cyhoeddus ar gyfer y lefel briodol ar gyfer y pynciau maent yn eu hastudio
Dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
Dan ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer ysgolion yng Nghymru a rheoliadau a nodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, mae addysgu’r Gymraeg yn bwnc gorfodol ym mhob ysgol yn Sir Fynwy.
Mae rheoliadau yn eithrio disgyblion (o’r tu allan Gymru) rhag astudio’r Gymraeg, sy’n cael eu derbyn i ysgol ym mlynyddoedd 9, 10 neu 11 addysg uwchradd.
Pwy sy’n gwneud y penderfyniadau am gwricwlwm ysgol?
Mae ysgolion yn penderfynuu ar eu cwricwlwm eu hunain gan roi ystyriaeth i’r Cwricwlwm i Gymru a’r maes llafur a gytunwyd yn lleol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Mater i’r ysgol yw sicrhaufod y cwricwlwm yn cyflawni’r gofynion cyfreithiol.
Deilliannau i Ddysgwyr
Mae’r Awdurdod yn parhau i weithio gyda’i ysgolion a’r GCA i weithredu fframwaith polisi i sicrhau bod safonau mewn ysgolion yn parhau i wella. Yn hanesyddol, mae safonau canlyniadau TGAU a Safon Uwch wedi bod yn gyson uwch na chyfartaledd Cymru.
Fodd bynnag, ers y pandemig yn 2020, mae’r effaith ar ganlyniadau ledled Cymru wedi bod yn sylweddol ac o ganlyniad, mae’n amhosibl cymharu â chanlyniadau presennol o fewn ysgolion, ar draws yr Awdurdod Lleol ac yn genedlaethol. Mae amcanion penodol yng Nghynllun y Gyfarwyddiaeth sy’n anelu i sicrhau safonau uchel ym mhob ysgol a lleoliad yn Sir Fynwy.
Mae hyn yn cynnwys trawsnewid darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a chynyddu darpariaeth ar gyfer disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a grwpiau bregus eraill.