Skip to Main Content

Gall lefelau darllen plant ostwng yn ystod gwyliau hir yr haf os nad ydynt yn cael mynediad yn rheolaidd i lyfrau ac anogaeth i ddarllen er pleser. Gall hyn fod yn broblem i ysgolion i’w hunioni yn y tymor newydd. Mae Sialens Darllen Haf yn Sir Fynwy yn mynd yn ddigidol eleni i sicrhau y gall plant o bob oed gael mynediad i straeon yn ystod yr amgylchiadau presennol.

Mae Hybiau Cymunedol Sir Fynwy yn hyrwyddo’r Sialens Darllen Haf drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol ac yn cefnogi plant i gymryd rhan drwy Borrowbox – gwasanaeth eLyfrau ac eLyfrauSain rhad ac am ddim Sir Fynwy, a drwy’r gwasanaeth Gofyn a Chasglu.

Gelwir Sialens Darllen haf 2020 yn ‘Sgwad Gwirion’ ac mae’n dathlu llyfrau doniol, hapusrwydd a chwerthin. Yr haf hwn, bydd plant yn cwrdd â’r Sgwad Gwirion: criw o anifeiliaid annwyl sy’n rhedeg tŷ hwyl gwych ond byddwch yn ofalus, mae dihiryn dirgel yn aros i ddifetha’r hwyl!

Bydd plant sy’n cymryd rhan ar-lein yn canfod mwy am y cymeriadau gwych ac yn datgloi gwobrau digidol, gweithgareddau a chynnwys fideo i’w gwobrwyo am eu darllen. Bydd hefyd lu o sianeli cyfryngau cymdeithasol ar gyfer gweithgareddau hwyliog a mwy o wybodaeth.

Cynhelir Sialens Darllen Haf dros wyliau’r haf mewn llyfrgelloedd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, Wedi’i datblygu gan yr elusen The Reading Agency, ynghyd â rhwydwaith llyfrgelloedd cyhoeddus y Deyrnas Unedig, dyma bellach yw hyrwyddiad darllen blynyddol mwyaf Prydain ar gyfer plant oed ysgol gynradd.

Cymerodd 1279 o blant Sir Fynwy ran yn Sialens Darllen Haf 2019 dan teitl Ras Gofod. Yn ôl Adroddiad yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol 2012, dim ond 1 mewn 4 bachgen sy’n darllen bob dydd tu fas i ddosbarth, fodd bynnag, yn Sir Fynwy  bechgyn oedd 46% o’r rhai a gymerodd ran yn Ras Gofod, Sialens Darllen Haf 2019.

I gofrestru ar gyfer Sialens Darllen Haf y Sgwad Gwirion ewch i https://summerreadingchallenge.org.uk/ neu https://cymru.summerreadingchallenge.org.uk