Skip to Main Content

Mae Safonau Masnach Cyngor Sir Fynwy yn awyddus i gefnogi menter genedlaethol o’r enw Busnesau yn erbyn Sgamiau, sy’n ceisio atal busnesau rhag dioddef yn sgil troseddwyr sy’n manteisio ar bandemig COVID-19 ar hyn o bryd.

Fel rhan o’r fenter, mae fideo ar-lein byr ar gael yn rhad ac am ddim, sy’n hygyrch i bob busnes.  Mae’n amlygu’r sgamiau penodol sy’n cylchredeg ar hyn o bryd a’r modd y gall busnesau a fyddai fel arfer heb eu heffeithio yn dod yn sefyllfaol fregus. Mae’n archwilio sut mae ffactorau fel pwysau ariannol, gweithio gartref ynysig a TG anghyfarwydd i gyd yn cael eu trin i gribddeilio arian gan fusnesau.

Rhaid i bob masnachwr lleol roi ei enw a’i gyfeiriad ac ar ôl edrych ar y cyflwyniad gallant ddefnyddio deunyddiau hyrwyddo y gellir eu rhannu ymhlith staff.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, yr Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol, “Mae hon yn fenter ddefnyddiol iawn. “Mae busnesau eisoes yn ei chael hi’n anodd parhau i gadw fynd o dan amgylchiadau heriol iawn, heb y straen ychwanegol o gael eu twyllo o bosibl gan sgamwyr. Mae fideo Busnesau yn erbyn Sgamiau yn adnodd hanfodol er mwyn helpu diogelu rhag sgamiau. Gwybodaeth yw’r amddiffyniad gorau sydd gennym.”

Am fwy o wybodaeth o ran Busnesau yn erbyn Sgamiau ac i gael mynediad i’r fideo ewch i https://www.friendsagainstscams.org.uk/BAS