Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio grŵp gorchwyl arbennig i fynd i’r afael â’r gwaith adferiad mawr yn dilyn y llifogydd arswydus a welwyd  ar draws y sir.

Sefydlwyd Grŵp Cydlynu Adferiad (RCG) ‘Attis’ mewn cysylltiad ag awdurdodau cyfagos yng Ngwent ac asiantaethau megis Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r cyngor a’i bartneriaid yn gweithio’n galed i asesu’r difrod a achoswyd gan Storm Ciara a Storm Dennis a’i effaith ar breswylwyr, busnesau, seilwaith a’r amgylchedd – gyda dros 100 o gartrefi a nifer o fusnesau eisoes wedi eu dynodi fel rhai y mae’r llifogydd yn Sir Fynwy wedi effeithio arnynt.

Gyda disgwyl i gost y gwaith adfer fod yn ddegau o filiynau o bunnau, mae’r grŵp gorchwyl eisoes wedi dechrau ar y dasg o geisio cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Disgwylir i’r grŵp gorchwyl fod yn weithredol am nifer o fisoedd ac efallai yn hirach o gofio am faint y dasg, nes y cafodd yr ymyriad ei unioni, galwadau ar wasanaethau wedi dychwelyd i lefelau arferol, ac anghenion y rhai yr effeithiwyd arnynt wedi eu diwallu.

I helpu’r grŵp i gyflawni eu hymateb, gofynnir i unrhyw un yn Sir Fynwy y mae’r llifogydd wedi effeithio arnynt i gysylltu gyda’r cyngor. Mae ffurflen syml ar gael drwy ap ‘Fy Sir Fynwy’ neu ar wefan y cyngor. Mae staff yn yr Hybiau Cymunedol ar draws y sir hefyd ar gael i helpu unrhyw un i lenwi’r ffurflen os nad oes ganddynt fynediad i gyfrifiadur.

Cafodd y cyngor ei synnu gan haelioni pobl sy’n cynnig cymorth a cyfraniadau. Mae’r cynigion hyn wedi cynnwys cyfraniadau o fwyd, celfi a dillad, yn ogystal â chynigion o lety a chludiant. Mae nifer o bobl a busnesau hefyd wedi cynnig help corfforol i lanhau a chael gwared â gwastraff. Caiff unrhyw un a all gynnig cymorth eu hannog i gysylltu er mwyn cofnodi pob cynnig o help.

Dywedodd Peter Fox, Arweinydd y Cyngor: “Cafodd y digwyddiadau eithafol hyn effaith drychinebus ar ein sir hardd, ein preswylwyr a busnesau a bydd y teimlad o golled y rhai yr effeithiwyd arnynt yn parhau am hir. Drwy sefydlu RCG Attis rydym eisoes wedi dechrau dynodi pa lefelau o gymorth a chyngor sydd ar gael i’n preswylwyr a’r cynigion yma o help fydd yn ein rhoi ar ben y ffordd hir i adferiad. Fedrwn i ddim meddwl am enw mwy addas ar gyfer y grŵp hwn nag Attis – Duw Groegaidd dadeni. Yn y cyfnod hwn na welwyd ei debyg, rwy’n falch tu hwnt o’n cymunedau sydd wedi dod ynghyd i gefnogi eu cymdogion a chynnig popeth o gelfi a bwyd am ddim i fynd ati i dorchi eu llewys i lanhau ysgyrion a gwastraff. Buoch yn rhagorol. I’r rhai yr effeithiwyd arnoch, gallaf eich sicrhau ein bod yn gweithio drwy’r dydd a’r nos i gael Sir Fynwy yn ôl ac ar waith unwaith eto.”