Disgrifiad Cwrs
Dyfarniad Lefel 2 Highfield Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo (RQF)
Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch (neu’r rhai sydd am fin dechrau gweithio yn y diwydiant). Bydd dysgwyr sy’n ennill y cymhwyster hwn yn gwybod fod diogelwch bwyd yn gyfrifoldeb pawb sy’n ymwneud â storio, paratoi, gwasanaeth coginio a thrin bwyd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ystyried bod ei bynciau’n bwysig i gynnal arfer da wrth gynhyrchu bwyd diogel.
Mae gan Ddyfarniad Lefel 2 Highfield mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo (RQF) achrediad a chafodd ei ddatblygu i ddiogelu cwsmeriaid, enw da brand ac elw.
Beth sy’n cael ei gynnwys?
- Diffinio hylendid bwyd
- Peryglon diogelwch bwyd (corfforol, cemegol, alergenol a biolegol)
- Yr angen am safonau uchel o hylendid bwyd: rhesymau dyngarol, busnes a chyfreithiol
- Rheoli rhaglen diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion HACCP
- Cynllun cegin a dyluniad i atal traws-halogi
- Hylendid personol
- Sut i gadw ardaloedd bwyd yn lanwaith
- Ymwybyddiaeth a rheoli plâu
- Derbyn a storio bwydydd yn ddiogel
- Paratoi, coginio, oeri, dal a gweini bwyd yn ddiogel
- Cymhwysedd a phwysigrwydd gweithredu yr hyn a ddysgwyd
Sut caiff y cymhwyster ei asesu?
Caiff y cymhwyster hwn ei asesu gan arholiad aml-ddewis
Beth nesaf?
Gall unigolion sy’n ennill y cymhwyster yma wedyn symud ymlaen i unrhyw un o gymwysterau Lefel 3 Highfield mewn Diogelwch Bwyd, sy’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno symud ymlaen i lefel uwch neu oruchwyliol o fewn busnes arlwyo bwyd.
Ble fedraf gymryd y cwrs?
Caiff cyrsiau Diogelwch Bwyd eu cynnig drwy gydol y flwyddyn yn ein holl swyddfeydd yn Sir Fynwy. Cysylltwch â ni i gael mwy o fanylion.