Rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar y Drafft Diwygiedig Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) Tai Fforddiadwy. Cafodd y CCA Tai Fforddiadwy (mabwysiadwyd Mawrth 2016) ei ddiwygio i ystyried tystiolaeth ddiweddar ac i gynnig eglurdeb ar elfennau allweddol o’r CCA.
Mae’r ddogfen ar gael i’w gweld yma ac yn y safleoedd a rhestrir isod o Ddydd Iau’r 11eg o Ebrill i Ddydd Mawrth yr 28ain o Ebrill 2019.
- Cyngor Sir Fynwy, Derbynfa Gynllunio, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA (9:00yb – 5:00yh Llun i Iau a 9:00yb – 4:30yh ar ddydd Gwener;
- Llyfrgelloedd Cyngor Sir Fynwy yn Y Fenni a Gilwern yn ystod oriau agor arferol;
- Siop un Stop Cyngor Sir Fynwy yn Neuadd y Dref, Stryd y Groes, Y Fenni, NP7 5HD yn ystod oriau agor arferol ac
- Yr HYBIAU Cymunedol yng Nghil-y-coed, Trefynwy a Brynbuga yn ystod oriau agor arferol.
Mae yna ffurflen ar gyfer cynrychioli hefyd ar gael o’r safleoedd hyn neu gellir ei lawrlwytho yma. Dylid danfon cynrychiolaethau sy’n ymwneud â’r CCA Drafft i’r:
Tîm Cynllunio Polisi, Cyngor Sir Fynwy, Blwch Post 106, Cil-y-coed, NP26 9AN
Fel arall gellir llenwi ffurflenni cynrychiolaeth yn electronig a’u cyflwyno ar y we neu gellir ebostio sylwadau i:
planningpolicy@monmouthshire.gov.uk
Dylid gwneud cynrychiolaethau ar ddechrau’r cyfnod ymgynghori a cyn canol nos ar ddydd Mawrth yr 28ain o Fai 2019.
Nodwch os gwelwch yn dda y bydd y sylwadau a derbynnir ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd ac ni ellir eu trin yn gyfrinachol.