Skip to Main Content

Cyflwynwyd Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC) gan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Bwriedir i’r GGMC ymdrin â niwsans neu broblem benodol mewn ardal benodol sy’n niweidiol i ansawdd bywyd y gymuned leol, drwy osod amodau ar y defnydd o’r ardal honno sy’n gymwys i bawb.

Yng Nghymru, caiff GGMC ei wneud gan gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol. Gall Cyngor wneud GGMC os ydynt yn fodlon ar sail resymol bod y gweithgareddau a gynhelir, neu sy’n debygol o gael eu cyflawni, mewn man cyhoeddus:have had, or are likely to have, a detrimental effect on the quality of life of those in the locality;

  1. wedi cael, neu sy’n debygol o gael, effaith andwyol ar ansawdd bywyd y rhai yn yr ardal;
  2. sydd, neu sy’n debygol o fod, yn barhaus neu’n barhaol ei natur;
  3. sydd, neu sy’n debygol o fod, yn afresymol; ac yn
  4. cyfiawnhau’r cyfyngiadau a osodir gan yr hysbysiad

Mae GGMC yn orchymyn sy’n dynodi’r man cyhoeddus ac yn gwahardd gwneud pethau penodol yn yr ardal gyfyngedig ac/neu yn ei gwneud yn ofynnol i bethau penodedig gael eu gwneud gan bersonau sy’n cyflawni gweithgareddau penodol yn yr ardal honno. Mae’r Gorchymyn ar waith am dair blynedd a rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â phrif swyddog yr heddlu a Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd cyn cyhoeddi’r Gorchymyn.

Mae torri GGMC yn drosedd ac mae cosbau posibl yn cynnwys hysbysiad cosb benodedig o £100 neu ddirwy lefel 3 (ar gollfarn).

Enghraifft:

Gellir defnyddio GGMC i atal grŵp rhag defnyddio sgwâr cyhoeddus fel parc sglefr-fwrddio ac ar yr un pryd, mae’n atal ymddygiad gwrthgymdeithasol meddw yn yr un lle drwy ei gwneud yn drosedd i beidio â chyflwyno cynwysyddion alcohol pan ofynnir i chi wneud hynny. Gellir ei ddefnyddio hefyd i atal cŵn rhag baeddu mewn parc cyhoeddus neu gael eu cymryd i ardal chwarae plant o fewn y parc hwnnw.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi nifer o Orchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol megis ym Maes Parcio Fairfield a’r

Parc Sglefr-fwrddio yn y Fenni, yn ogystal â throsglwyddo tri hen Orchmynion i fod yn Orchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus er mwyn rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud ag yfed alcohol yn Y Fenni a Threfynwy. Mae GGMC cyffredinol ar bob maes parcio Cyngor Sir Fynwy sy’n atal defnydd gwrthgymdeithasol o gerbydau modur, yn ogystal â cherddoriaeth a cherddoriaeth sain uchel o’r cerbydau hynny.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: CommunitySafety@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644210.

Rhestr o’r lleoliadau GGMC cyfredol: