Skip to Main Content

 Tiwtor: Helen Haney

DISGRIFIAD O’R CWRS:

Cwrs delfrydol yw hwn i unrhyw un sy’n dymuno dechrau hobi newydd neu wella sgiliau.  Gallwn gynnwys y mwyafrif o grefftau gan gynnwys gwau, crosio, gwnïo, croesbwyth, brithlen a chlytwaith sylfaenol.     Mae sylw unigolyn yn cael ei rhoi i bob dysgwr i’w galluogi i ddysgu’r grefft benodol yr oeddent wedi’i ddewis.

Gellir cynnig pob agwedd o wnïo gan gynnwys deall cyfarwyddiadau patrymau gwnïo sylfaenol, defnyddio a chynnal peiriant gwnïo, sgiliau torri sylfaenol ayyb.

Gall wnïo gynnwys Castio, Gwnïo, Sïo, Pwyth Gardas, Rib, Pwyth Hosan, Ceblau, Darllen patrwm ayyb.

Gall crosio gynnwys Cadwyn, Crosio Dwbl, Triphlyg, Crosio Tiwnisaidd, dilyn patrwm ayyb.

RHAG-AMODAU:

Dim

CANLYNIADAU:

I allu cwblhau’r prosiect y dewisoch gan ddefnyddio sgiliau megis gwau, crosio, gwnïo, croesbwyth, brithlen a chlytwaith.

UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER SYDD ANGEN AR FYFYRWYR:

Bydd y gweithgaredd grefft yn cael ei ddarparu’r wythnos gyntaf, a bydd y tiwtor yn trafod pa fath o brosiect hoffech chi gwblhau ac yn cynnig cyfarwyddyd ynglŷn â’r deunyddiau/offer bydd angen am y prosiect. Gellir prynu rhai eitemau megis bachau crosio, edau, ffabrig ayyb o’r tiwtor os oes angen ond dewis cyfyngedig sydd yn unig.