Skip to Main Content

Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig (ISA)

Mae’n ofyniad statudol fod Gwerthusiad Cynaliadwyedd yn rhan o Gynlluniau Datblygu Lleol newydd. Rôl y Gwerthusiad Cynaliadwyedd yw asesu i ba raddau y bydd y polisïau sy’n dod i’r amlwg yn helpu i gyflawni amcanion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ehangach y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (y ‘Cynllun Newydd’).

Adroddiad Cwmpasu Gwerthusiad Cynaliadwyedd

Mae Adroddiad Cwmpasu Gwerthusiad Cynaliadwyedd Cynllun Datblygu Lleol Newydd Sir Fynwy yn amlinellu’r dull gweithredu a gynigir ar gyfer y Gwerthusiad Cynaliadwyedd, gan gynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol.

Yr adroddiad hwn yw cam cyntaf proses ISA ac mae’n nodi’r materion gwerthuso cynaliadwyedd a’r amcanion/meini prawf y caiff strategaeth, polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol Newydd eu hasesu arnynt. Mae hyn wedi golygu adolygu’r cynlluniau, rhaglenni, strategaethau a pholisïau sy’n berthnasol i baratoi’r Cynllun Newydd, ynghyd ag adolygiad o nodweddion llinell sylfaen amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y Sir a gaiff eu diweddaru drwy gydol y broses o baratoi’r Cynllun.

Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad Cynaliadwyedd (Rhagfyr 2018)

Atodiad 1: Adolygiad o Gynlluniau, Polisïau, Rhaglenni a Strategaethau (Tachwedd 2022)

Atodiad 2: Data Llinell Sylfaen Sir Fynwy (Tachwedd 2022)

Adroddiad Dechreuol Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig

Yr adroddiad ISA dechreuol yw ail gam y broses Gwerthusiad Cynaliadwyedd ac mae’n gwerthuso effeithiau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig (ISA) Dechreuol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd Sir Fynwy (Tachwedd 2022) a Crynodeb Annhechnegol (Tachwedd 2022)

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Mae Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (2010) yn ei gwneud yn ofynnol gweithredu Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd i bob cynllun statudol defnydd tir yng Nghymru a Lloegr. Y diben yw asesu os byddai cynigion y Cynllun yn cael unrhyw effeithiau niweidiol sylweddol ar safleoedd dynodedig a ddiffiniwyd dan Reoliad 10 y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, sy’n cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig.

Adroddiad Sgrinio Dechreuol Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Yr adroddiad sgrinio dechreuol yw cam cyntaf yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a gynhelir yng nghyswllt Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.

Asesiad Rheoliad Cynefinoedd Strategaeth a Ffefrir Cynllun Datblygu Lleol Newydd Sir Fynwy

Diben yr asesiad hwn oedd dynodi unrhyw agweddau o Strategaeth a Ffefrir y   Cynllun Datblygu Lleol Newydd a fedrai achosi effaith niweidiol i safleoedd Natura 2000, a gaiff hefyd eu galw yn safle Ewropeaidd (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a safleoedd Ramsar), naill ai ar ben eu hunain neu mewn cyfuniad gyda chynlluniau a phrosiectau eraill, ac i gynghori ar ddulliau polisi priodol ar gyfer sicrhau lliniaru lle dynodwyd effeithiau o’r fath.

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar Strategaeth a Ffefrir Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy (Tachwedd 2022) a Chrynodeb Gweithredol (Tachwedd  2022)