Skip to Main Content

Cafodd Nodyn Cyngor Cynllunio Tyrbinau Gwynt  ei baratoi ar lefel ranbarthol i gyflwyno methodoleg i benderfynu os oes angen Asesiad o’r Effaith ar yr Amgylchedd ar gyfer datblygu tyrbinau gwynt a’r isafswm gofynion a safonau gwybodaeth i’w cyflwyno gydag Asesiad Effaith ar y Tirlun ac Effaith Gweledol. Cymeradwywyd hyn gan Benderfyniad Aelod Cabinet Sengl ym Mawrth 2016.

Paratowyd Nodyn Cynghori Cynllunio Archaeolegol ar lefel ranbarthol er mwyn nodi canllawiau a methodoleg i benderfynu a oes angen arolygon ac asesiadau archaeolegol i’w datblygu o fewn Awdurdod Cynllunio Cyngor Sir Fynwy, ac i ba raddau y mae angen eu datblygu. Mae’r ddogfen hefyd yn rhoi arweiniad ar archaeoleg yn Sir Fynwy, yr Ardaloedd Archaeolegol Sensitif dynodedig a beth mae hyn yn ei olygu, a manylion cyswllt sefydliadau sy’n ymwneud ag archaeoleg. Cymeradwywyd hyn gan Benderfyniad Aelod Unigol o’r Cabinet ym mis Gorffennaf 2020

Cafodd y dogfennau dilynol eu mabwysiadu gan y Cyngor fel Canllawiau Cynllunio Atodol, yn ychwanegol at y rhai a restrir ar Dudalen Canllawiau Cynllunio Atodol:

Gwerthusiad Ardal Cadwraeth Tryleg (Ebrill 2012)

Canllawiau Cynllunio Atodol Garejys Domestig (Ionawr 2013)

Safonau Parcio Sir Fynwy (Ionawr 2013)