Tiwtor : Mary Reed
DISGRIFIAD O’R CWRS:
Bydd y cwrs hwn yn datblygu sgiliau yn defnyddio dolenni Hyb Brynbuga i wahanol safleoedd ymchwil.
Pynciau’n cynnwys: Enghreifftiau o goed teulu, technegau ymchwil, dadansoddi gwahanol fathau o gofnodion, astudio tystiolaeth ddogfennol a darganfod tarddiad ac ystyr enwau teulu i ddechrau ymchwilio hanes eich teulu eich hun.
Bydd hwn yn grŵp gallu cymysg lle trafodir pynciau misol a byddech wedyn yn symud ymlaen i ymchwilio eich Hanes Teulu eich hun dan arweiniad tiwtor TGCh. Ar wahanol adegau yn ystod y cwrs gallai fod yn bosibl mynychu sesiynau gyda chynrychiolydd o Archifau Gwent.
HANFODOL:
Byddai sgiliau TGCh yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.
DEILLIANNAU:
Ymchwilio eich hanes teulu eich hun
UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER SYDD EU HANGEN GAN FYFYRWYR:
Byddai peniau ysgrifennu, llyfr nodiadau a dyfais storio USB fod yn ddefnyddiol ynghyd ag unrhyw ymchwil flaenorol gennych.
TIWTOR: Mary Reed
Rwyf wedi bod yn addysgu TGCh am rai blynyddoedd. Cefais fy nghymhwyster cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Caerdydd a thystysgrif addysgu yng Nghaerllion. Cedwais yn gyfredol drwy gael fy nghymhwyster addysgu llythrennedd digidol. Mynychais lawer o gyrsiau dan arweiniad Cannon UK a chwrs y Brifysgol Agored ar bwnc deall achau.
Rwy’n addysgu cyfrifiadureg i ddechreuwyr hyd at haen 3 lefel “A”, gan gyflwyno dysgwyr i’r byd digidol yn defnyddio eu dyfeisiau eu hunain yn cynnwys camerâu digidol. Roedd fy menter newydd y llynedd i fyd hanes teulu a hel achau. Eleni rwy’n datblygu cyrsiau’n seiliedig ar storio cwmwl a chymwysiadau.
Rwyf wrth fy modd yn rhannu gwybodaeth a llwyddiant myfyrwyr yn yr hyn y maent yn ei gyflawni.