TIWTOR: Mary Reed
DISGRIFIAD:
Ydych chi’n edrych i ddiweddaru’ch gwybodaeth am daenlenni? Mae’r gweithdy NEWYDD hwn ar eich cyfer chi!
Gan ddefnyddio meddalwedd Microsoft Excel gallwch yn ail-feddu ar sgiliau ac arbrofi gyda gwahanol fformatau; fformiwlâu; graffiau a siartiau. Bydd y gweithdy o natur ymarferol, dan arweinyddiaeth tiwtor gyda chanllawiau cyfeirio cyflym, arddangosiadau gan y Tiwtor, cwis ac awgrymiadau
Gellir anelu’r cwrs hwn at, a gall y pynciau gynnwys:-
Dechreuwr:- Yn newydd i grynhoi a gweithio gyda rhaglen taenlen – mewnbynnu data, fformatio, graffiau syml, fformiwlâu syml, technegau ac awgrymiadau argraffu, BODMAS, ailadrodd data.
Canolradd:- Defnyddio swyddogaethau rhesymeg, graffiau a siartiau, fformatio amodol, didoli data, hidlwyr, mwy o swyddogaethau
Uwch:– Chwiliadau, Tablau colynnu, senarios, swyddogaethau cronfa ddata, cysylltu llyfrau gwaith, macros, dadansoddiad data is-gyfansymiau, swyddogaethau ariannol. Dilysu. Hyd yn oed mwy o swyddogaethau
Mae’n debyg y bydd hwn yn weithdy gallu cymysg a dylai mynychwyr deall y bydd ymarferion yn cael eu cyflenwi’n unigol i lefel yr arbenigedd presennol yn y pwnc. Mae’n bwnc mawr ac yn amhosib cwmpasu’r holl swyddogaethau a chyfleusterau mewn un sesiwn; y nod yw gwella’ch gwybodaeth gyfredol.
Cymorth 1-1 lle mae amser yn caniatáu
DEUNYDDIAU A GYFLENWIR GAN Y TIWTOR:
Llyfrau Gwaith a chanllawiau cyfeirio cyflym
COST:
Am ddim
ANGHENION MYFYRWYR O RAN UNRHYW DDEUNYDDIAU/OFFER:
Dyfais storio USB, pen a phapur
TIWTOR: Mary Reed
Rwyf wedi bod yn addysgu TGCh am rai blynyddoedd. Cefais fy nghymhwyster cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Caerdydd a thystysgrif addysgu yng Nghaerllion. Cedwais yn gyfredol drwy gael fy nghymhwyster addysgu llythrennedd digidol. Mynychais lawer o gyrsiau dan arweiniad Cannon UK a chwrs y Brifysgol Agored ar bwnc deall achau.
Rwy’n addysgu cyfrifiadureg i ddechreuwyr hyd at haen 3 lefel “A”, gan gyflwyno dysgwyr i’r byd digidol yn defnyddio eu dyfeisiau eu hunain yn cynnwys camerâu digidol. Roedd fy menter newydd y llynedd i fyd hanes teulu a hel achau. Eleni rwy’n datblygu cyrsiau’n seiliedig ar storio cwmwl a chymwysiadau.
Rwyf wrth fy modd yn rhannu gwybodaeth a llwyddiant myfyrwyr yn yr hyn y maent yn ei gyflawni.