Holiadur ar gyfer pobl sy’n derbyn gofal cymdeithasol
Pam ydyn ni’n cysylltu â chi?
Rydym eisiau i chi ein helpu i wella’r gwasanaethau yr ydych chi a phobl eraill yn Sir Fynwy yn eu derbyn.
Beth fydden ni’n hoffi i chi wneud?
A fyddwch cystal ag ateb y cwestiynau am yr help a gawsoch gennym os gwelwch yn dda.
Sut caiff eich atebion eu defnyddio?
Ni fydd eich atebion yn newid y gofal a’r gefnogaeth a gawsoch gennym. Dim ond i adael i ni wybod eich bod wedi ateb y defnyddir y cyfeirnod unigryw ar yr holiadur fel nad ydym yn gofyn i chi lenwi’r holiadur eto., Os nad ydych yn gwybod beth yw’r rhif yma, ni fydd angen i chi lenwi’r adran. Byddwn yn rhoi atebion dienw i Lywodraeth Cymru fel y gallant fonitro pa mor dda yr ydym yn darparu ein gwasanaethau. Ni chaiff eich atebion eu rhannu ymhellach os nad oes gennym bryderon difrifol am ofalu. I gael mwy o wybodaeth am sut ydym yn prosesu a diogelu eich gwybodaeth gallwch ganfod mwy yn www/monmouthshire.gov.uk/your-privacy/social-care-health
Llenwi’r holiadur
Llenwch yr holiadur islaw sy’n berthnasol i chi os gwelwch yn dda. Mae holiadur ar gyfer plant, eu rhieni a gofalwyr oedolion.
Diolch i chi am ein helpu.
Jane Rodgers
Pennaeth Gwasanaethau Plant a Diogelu
Eve Parkinson
Pennaeth Gwasanaethau Oedolion