Defnyddir Allwedd Technogym, neu Allwedd TGS, i’ch helpu i gael y gorau o’ch ymarfer. Bydd ein hyfforddwyr cymwysedig yn cynllunio rhaglen ymarfer bersonol ar eich cyfer a gaiff wedyn ei llwytho ar eich allwedd TGS.
Bydd eich allwedd TGS yn:
- Eich llywio drwy eich sesiwn hyfforddi
- Addasu gosodiadau y peiriannau i’ch rhaglen bersonol eich hun
- Cofnodi faint o galorïau a losgwch ac olrhain eich cynnydd
- Eich atgoffa pan mae’n amser i chi gael ail-asesiad
- Anfon negeseuon ar-lein i’ch hyfforddydd i ofyn unrhyw gwestiynau iddyn nhw neu ofyn am newidiadau i’ch rhaglen